Ewch i’r prif gynnwys

Cyfres Piano: Catherine Milledge & Roger Owens

Dydd Mawrth, 14 Chwefror 2023
Calendar 19:00-21:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Piano

Mae’r Gyfres Piano yn parhau gyda pherfformiad ar ddau biano gan Catherine Milledge a Roger Owens.

Mae’r rhaglen hon yn archwilio cerddoriaeth y repertoire pedwar-llaw – a hynny gan gynnwys trefniadau arwrol o weithiau cerddorfaol gan Brahms a Ravel a deuawadau  mwy preifat gan Schubert, darnau a gyfansoddwyd ar gyfer perfformio mwy teuluaidd. Daw’r ddwy elfen hyn ynghyd yn y Rondo gan Chopin ar gyfer dau biano. Clywir yma, yn y llif telynegol,  y chwareuwyr yn creu naws ymgom.   

Bydd  myfyrwyr sy’n bianyddion yn gallu elwa a chael ysbrydoliaeth o’r perfformiadau ac efallai yn darganfod dros  eu hunain ddeuawdau llai hysbys y repertoire. Ar ddiwedd y cyngerdd clywn ddarn newydd gan gyfansoddwr o’r Ysgol Cerdd, Dr Daniel Bickerton.

RHAGLEN:

Brahms: Amrwiadau ar thema gan Haydn

Schubert: Fantasie yn F leiaf

Chopin: Rondo i Ddau Biano 

Schubert: Rondo yn A fwyaf

Ravel: La Valse

Bickerton: FOGBOW

Gweld Cyfres Piano: Catherine Milledge & Roger Owens ar Google Maps
Neuadd Gyngerdd Ysgol Cerddoriaeth Caerdydd
Music Building
31 Heol Corbett
Cathays
Caerdydd
CF10 3EB

Rhannwch y digwyddiad hwn


Digwyddiadau yn y gyfres hon

School of Music concert series