Ewch i’r prif gynnwys

Diwallu anghenion diogelwch bwyd a maeth poblogaeth sy’n tyfu

Dydd Mawrth, 14 Mawrth 2023
Calendar 18:30-18:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Meeting food and nutrition security needs of a growing population

Darlith gyhoeddus gyda Dr Muneta Grace Kangara (Prifysgol Nottingham).

Haniaethol

Mae cynhyrchiant amaethyddol yn Affrica Is-Sahara yn cael ei rwystro i raddau helaeth gan ffrwythlondeb isel y pridd, asidedd y pridd, gwenwyndra alwminiwm a manganîs, a chynnwys mater organig isel. Mae nodweddion cefndirol y priddoedd tywodlyd cyffredin sy'n deillio o wenithfaen yn ei gwneud hi'n heriol i rai prosesau biolegol, megis sefydlogiad nitrogen, ffynnu, gan gyfyngu ymhellach ar groniad ffrwythlondeb y pridd. Mae crynodiadau cynhenid isel o ficrofaetholion pridd hanfodol fel sinc a defnydd cyfyngedig o wrtaith sy'n seiliedig ar facro a microfaetholion yn arwain at rawn o werth maethol gwael sy'n peri risg o ddiffyg microfaetholion.

Yn ddiweddar, adroddwyd bod tua 62% o blant cyn oed ysgol ac 80% o fenywod nad ydynt yn feichiog o oedran atgenhedlu mewn perygl o ddiffyg sinc, haearn a ffolad yn Affrica yn unig. Mae strategaethau rheoli deunydd organig yn y pridd fel cadw gweddillion cnydau a thomwellt, cynhyrchu codlysiau grawn sy’n sefydlogi nitrogen a chnydau gorchudd tail gwyrdd, ac adnoddau maethol organig fel tail gwartheg a sbwriel dail coetir yn cynnig potensial mawr i wella cynhyrchiant pridd a chnydau. Gellid ategu'r technolegau hyn â gwrtaith mwynol mewn dull a elwir yn Rheolaeth Integredig ar Ffrwythlondeb y Pridd.

Cynaladwyedd - beth nesaf?

Sut fath o le rydym ni eisiau i’r byd fod yn 2030, a sut mae cyflawni hyn? Yn 2015, cytunodd Aelod-wladwriaethau’r Cenhedloedd Unedig ar y Nodau Datblygu Cynaliadwy, sef glasbrint ar gyfer mynd i’r afael â llawer o’r heriau sy’n effeithio ar gymunedau ledled y byd. Mae angen ymgysylltiad amrywiol i gyflawni'r nodau hyn, gan gynnwys gan y rhai sy'n ymwneud â Gwyddorau’r Ddaear a’r Amgylchedd. Yn y gyfres hon, mae arbenigwyr o amrywiaeth o ddisgyblaethau yn trin ac archwilio’r cysyniad o ‘ddatblygu cynaliadwy’ ac yn trin a thrafod ei oblygiadau ar y defnydd o adnoddau naturiol amrywiol.

Mae ein Cyfres o Ddarlithoedd Cyhoeddus yn ddigwyddiadau rhad ac am ddim sy’n denu cynulleidfa amrywiol gan gynnwys y cyhoedd, disgyblion ysgolion uwchradd a gweithwyr proffesiynol. Nod y gyfres yw agor meysydd o ddiddordeb yng Ngwyddorau’r Ddaear a’r Amgylchedd a chyflwyno ymchwil newydd yn y maes hwn i'r cyhoedd.

Parcio

Mae ein rheolau parcio ar y campws wedi newid. Bydd parcio ym Maes Parcio Bute ond ar gael am ddim i fynychwyr sy'n cyflwyno rhif cofrestru eu cerbyd. Bydd taflen mewngofnodi ar gael yn ystod y ddarlith. Cofiwch gofnodi eich manylion ym mhob digwyddiad.

Ceir mynediad i faes parcio'r Prif Adeilad o Blas y Parc. Mae lleoedd parcio yn gyfyngedig iawn ac mae 5 man parcio hygyrch dynodedig. Gall deiliaid Bathodynnau Glas barcio am ddim. Gall ymwelwyr gadw lle parcio ymlaen llaw drwy gysylltu â  carparking@caerdydd.ac.uk.

Mae mannau parcio cyhoeddus ar gael ar y stryd ar hyd Plas y Parc a Rhodfa'r Amgueddfa. Codir tâl cyn 19:00

Gweld Diwallu anghenion diogelwch bwyd a maeth poblogaeth sy’n tyfu ar Google Maps
Darlithfa Wallace (Ystafell 0.13)
Main Building
Plas y Parc
Caerdydd
CF10 3AT

Rhannwch y digwyddiad hwn


Digwyddiadau yn y gyfres hon

Sustainability - what next?