Ewch i’r prif gynnwys

Grymuso a dadrymuso menywod ar adegau o wrthdaro a chynnen cymdeithasol

Dydd Mercher, 8 Chwefror 2023
Calendar 13:00-14:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Oherwydd amgylchiadau annisgwyl, ni fydd un o’n siaradwyr, Alice MacLeod yn cyflwyno yn y digwyddiad hwn. Bydd ein siaradwr arall, Katherine Pickering, nawr yn ymuno â Dr Charlotte Walmsley, cyn-fyfyriwr PhD o Ysgol Ieithoedd Modern Caerdydd. Nodwch y newidiadau i deitl y digwyddiad ac i un o'r crynodebau isod.

Papur 1 gan Katherine Pickering:
‘Arian v Moesau: Rôl yr economi yn y ddadl am erthylu yn yr Ariannin a Brasil’

Crynodeb
Mae erthylu yn bwnc hynod emosiynol ond mae tystiolaeth y gall dadl fwy pragmatig, sydd â phwyslais economaidd ac ariannol, arwain at ganlyniadau dymunol o ran polisïau. O fewn y llenyddiaeth sydd eisoes yn bodoli sy'n trin a thrafod y ffordd y mae ymgyrchwyr sydd o blaid neu yn erbyn erthylu yn cyflwyno eu dadleuon, ceir rhywfaint o gydnabyddiaeth o rôl yr economi a chanfyddiadau o sicrwydd ariannol. Fodd bynnag, ychydig sydd wedi'i wneud i edrych yn benodol ar y ffordd y mae ymgyrchwyr yn defnyddio'r economi ac ystyriaethau ariannol yn eu rhethreg. Mae ymgyrchwyr sydd wedi fframio eu dadleuon yn llwyddiannus fel hyn wedi gweld deddf Rhif 27.610 yn cael ei phasio yn 2020 i gyfreithloni erthylu yn achos eiriolwyr ffeministaidd yn yr Ariannin. Ar ochr arall y geiniog, mae ymgyrchwyr crefyddol ceidwadol ym Mrasil wedi llwyddo i rwystro a gwanhau deddfwriaeth o blaid rhoi dewis o ran erthylu yn ystod arlywyddiaeth Bolsonaro. Mae’r papur hwn yn trafod sut y defnyddir dadl bragmatig ac ariannol o blaid ac yn erbyn erthylu yn yr Ariannin a Brasil. Mae hefyd yn dangos sut mae ei rhoi ar waith yn effeithiol yn arwain at ganlyniadau llwyddiannus o ran polisïau, ac yn awgrymu sut gellir atgynhyrchu’r model hwn mewn cyd-destunau eraill yn y frwydr dros alluogi menywod i reoli eu cyrff eu hunain.

Bywgraffiad
Mae Katherine Pickering yn fyfyriwr PhD blwyddyn gyntaf yn yr Ysgol Ieithoedd Modern ac Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth. Mae’n edrych ar ryfeloedd diwylliant yn Ne America gan roi pwyslais ar grwpiau lobïo ffeministaidd a neo-geidwadol yn yr Ariannin a Brasil. Mae ganddi MSc Dulliau Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol o Brifysgol Caerdydd, MSc Cysylltiadau Rhyngwladol America o Goleg Prifysgol Llundain, a BA Portiwgaleg a Sbaeneg o Brifysgol Caerdydd. Yn flaenorol, mae hi wedi ymchwilio i effeithiau trais yn erbyn menywod mewn gwleidyddiaeth a gweithredu deddfwriaeth sy’n sensitif o ran rhywedd. Yr hyn sydd o ddiddordeb iddi ar hyn o bryd yw’r ddeinameg rhwng ymgyrchwyr ffeministaidd a LHDTCRhA+ a gwrth-actifiaeth neo-geidwadol/crefyddol.

Papur newydd gan Dr Charlotte Walmsley:
'Rhyfel cartref fel gwrthdaro brawdladdol? Achos trais yn erbyn menywod yn Ffrainc Rhydd'

Mae sylwebwyr a haneswyr sy'n trafod rhyfel cartref wedi canolbwyntio'n aml ar rôl cyfranogiad dynion ac wedi damcaniaethu'r gwrthdaro hyn gan ddefnyddio fframwaith o drais brawdladdol. Ymddengys fod y dehongliadau hyn yn anwybyddu arwyddocâd trais yn erbyn menywod ar adegau o wrthdaro sifil a chynnwrf creulon. Gan gyfeirio at Ffrainc Rhydd, mae'r papur hwn yn ceisio gosod rôl trais yn erbyn menywod, gan gynnwys eillio pennau, gwawdio, a thrais rhywiol, gyda'r bwriad o ehangu dehongliadau rhywedd o ryfel cartref a gwrthdaro sifil.

Mae'r papur yn gyntaf yn archwilio diffiniadau o ryfel cartref a gwrthdaro sifil, gan ystyried i ba raddau y mae'r diffiniadau hyn yn berthnasol i Ffrainc yn ystod y Rhyddhad. Yna mae’n asesu’r rôl y deellir bod rhyw yn ei chwarae yn y cyd-destunau rhyfel cartref hyn. Gan gyfeirio at ffynonellau sylfaenol, gan gynnwys cofnodion y wasg a chofnodion barnwrol yn ymwneud â'r trais a brofir gan y femmes tondues, mae'r papur wedyn yn tynnu sylw at y ffyrdd y mae'r naratifau hyn yn cryfhau'r ddadl dros ail-fframio Ffrainc y Rhyddhad fel gwrthdaro sifil. Mae’n gorffen trwy ofyn pa oleuni y mae achos Ffrainc yn ei daflu’n fwy cyffredinol ar y berthynas rhwng rhywedd a rhyfel cartref: a oes angen diffiniad mwy cynhwysfawr o ryfel cartref bellach, un sy’n damcaniaethu’r rôl a chwaraeir gan drais yn erbyn menywod?

Bywgraffiad
Cwblhaodd Charlotte Walmsley ei PhD yn 2021, a ddadansoddodd ffenomen trais ar sail rhywedd yn dilyn Rhyfel Cartref Sbaen a Rhyddhad Ffrainc, gan ganolbwyntio’n benodol ar arferion cymharol o eillio pen benywaidd a gwawdio. Cyd-oruchwyliwyd y prosiect hwn gan yr Athro Hanna Diamond ym Mhrifysgol Caerdydd a’r Athro Nuria Capdevila-Argüelles ym Mhrifysgol Caerwysg. Mae diddordebau ymchwil Charlotte yn cynnwys rhyw, trais, gwrthdaro a chof. Mae hi bellach yn gweithio fel cynghorydd polisi.

Trefn y Digwyddiad & recordio
Bydd  y digwyddiad yn cael ei gynnal ar-lein fel gweminar Zoom a byddwn yn recordio’r gweminar er mwyn ei gyhoeddi ar ôl y digwyddiad.

Cyfieithu ar y pryd
Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â mlang-events@caerdydd.ac.uk erbyn dydd Mercher 1 Chwefror i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd. Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.

Cofrestru
Cofrestrwch i fynychu'r digwyddiad hwn drwy glicio ar y botwm 'Cofrestrwch' ar ochr chwith y dudalen hon. Mae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg.

Hysbysiad Diogelu Data
Pan fyddwch yn cofrestru, cedwir eich data yn unol â’n Hysbysiad Diogelu Data. Byddwn yn prosesu’r data personol a ddarparwyd gennych yn unol â rheoliadau diogelu data.

Rhannwch y digwyddiad hwn