Ewch i’r prif gynnwys

Cyfres Piano: Rachel Starritt

Dydd Mawrth, 7 Chwefror 2023
Calendar 19:00-21:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Piano

Mae ein cyfres o gyngherddau piano mis Chwefror yn cychwyn gyda datganiad gan y pianydd o Gymraes, RachelStarritt. Bydd hi yn cyflwyno rhaglen amrywiol o weithiau clasurol a jazz, gan gynnwys perfformiadau byrfyfyr yn y ddwy genres.

Mae’r rhaglen yn cynnwys cerddoriaethy o fyd y gân, dawns, naratif barddonol a hynny gyda naws byrfyfyr. Gwahoddir y gynulleidfa i ymgolli mewn golygfeydd, delweddau, syniadau penodol a theimladau amrywiol. Er enghraifft, mae Rachel yn synhwyro yn  Ich ruf zu dir Herr Jesu Christ (Bach-Busoni) rym y weddi ‘Gofyn am gysur oddiwrth yr Arglwydd.’

Cyfansoddwyd y gathl symffonig Nocturne gan Debussy yn wreiddiol ar gyfer cerddorfa linynnol ac mae ail o’r 2 Poèmes gan  Scriabin yn arddangos ail-gynhyrchiad ar y piano o naws cerddorfaol. Yn ei rhythm a’i chynghanedd mae ‘cerdd syml’ Villa-Lobos gydag elfen jazzaidd gref sy’n ein paratoi i ail hanner y cyngerdd.

 

RHAGLEN

Rhan 1:

- Bach-Busoni: Ich ruf zu dir Herr Jesu Christ – gyda rhagarweiniad byrfyfyr gwrthbwyntiol gan Rachel Starritt 

- Robert Schumann: Intermezzo op.4 rhif 5

- Glinka/Balakirev: Yr Ehedydd

- Robert Schumann: 'Allegro Brilliante' o’r Sonata rhif 3 yn F leiaf op.14

- Villa-Lobos: Poema Singelo

- Claude Debussy: Nocturne (1892)

- Chabrier: Impromptu

- Scriabin: 2 Poèmes Op.32

Rhan 2:

I gynnwys darnau jazz adnabyddus a darnau byrfyfyr gan Rachel Starritt – a chyda gwahoddiad i’r gynulleida awgrymu themau

Gweld Cyfres Piano: Rachel Starritt ar Google Maps
Neuadd Gyngerdd Ysgol Cerddoriaeth Caerdydd
Music Building
31 Heol Corbett
Cathays
Caerdydd
CF10 3EB

Rhannwch y digwyddiad hwn


Digwyddiadau yn y gyfres hon

School of Music concert series