Ewch i’r prif gynnwys

Rôl y system imiwnedd mewn dementia

Dydd Mawrth, 28 Chwefror 2023
Calendar 17:15-18:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

The role of the immune system in dementia

Mae dementia ar fwy na 850,000 o bobl yn y DU, gydag un o bob 14 o bobl dros 65 oed yn cael eu heffeithio gan y cyflwr. Gyda phoblogaeth sy'n heneiddio a nifer y bobl sy'n byw gyda dementia ar gynnydd, mae'r angen am ymchwil i ddeall yr achosion a nodi therapïau effeithiol, yn fwy nag erioed. Un maes ymchwil arwyddocaol yw niwro-llid - llid yn yr ymennydd.

Ymunwch â Dr Mat Clement (PhD 2013) a Dr Wiola Zelek (PhD 2020), Cymrodyr Ymchwil o’r Ysgol Meddygaeth, wrth iddynt gyflwyno eu hymchwil ar ddeall rôl firysau heintus a’r system imiwnedd wrth ddatblygu dementia. Clywch sut mae eu gwaith yn chwilio am therapïau newydd a all leihau llid yn yr ymennydd a helpu i ddod o hyd i ffyrdd o gludo'r meddyginiaethau hyn ar draws rhwystr gwaed yr ymennydd.

Rhannwch y digwyddiad hwn