Ewch i’r prif gynnwys

Sero net a thu hwnt: y rôl ar gyfer echdynnu CO2

Dydd Mawrth, 18 Ebrill 2023
Calendar 18:30-20:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Darlith gyhoeddus gyda'r Athro Jianzhong Wu (Prifysgol Caerdydd).

Ystyrir bod newid yn yr hinsawdd yn un o'r prif heriau sy'n wynebu'r byd ar hyn o bryd. Mae llawer o wledydd wedi sefydlu eu targedau Sero Net i frwydro yn erbyn newid hinsawdd. Bydd ein seilwaith aml-ynni integredig, gan gynnwys trydan, nwy, gwresogi, oeri, hydrogen, a thrafnidiaeth, nid yn unig yn chwarae rhan alluogi hollbwysig ar gyfer dyfodol carbon gwyrdd niwtral, ond hefyd yn dod yn rym sy’n cyflymu’r daith i sero net. Mae seilweithiau ynni'n bodoli'n bennaf i fynd i'r afael â'r amrywiaeth amserol a gofodol o ran trosi a defnyddio ynni ac i fanteisio ar arbedion maint lle maent yn bodoli. Mae'r trilemma ynni (diogelwch ynni, effaith amgylcheddol a chost gymdeithasol) yn cyflwyno llawer o heriau rhyng-gysylltiedig cymhleth sy'n hynod berthnasol yn rhyngwladol. Mae'r heriau hyn yn amrywio'n sylweddol o ranbarth i ranbarth oherwydd rhesymau hanesyddol, daearyddol, gwleidyddol, economaidd a diwylliannol. Wrth i dechnoleg a chymdeithas newid, felly hefyd yr heriau hyn, ac felly mae angen ailedrych ar gynllunio, dylunio a gweithredu'r seilwaith aml-ynni integredig a'i optimeiddio er mwyn integreiddio amrywiol dechnolegau ynni adnewyddadwy a charbon isel a llywio'r newid i Sero Net. Bydd y sgwrs hon yn defnyddio dull systemau cyfan i ddadansoddi natur gydgysylltiedig a rhyngddibynnol seilweithiau aml-ynni, a thrafod eu rolau yn y cyfnod pontio Sero Net.

Cynaladwyedd - beth nesaf?

Sut fath o le rydym ni eisiau i’r byd fod yn 2030, a sut mae cyflawni hyn? Yn 2015, cytunodd Aelod-wladwriaethau’r Cenhedloedd Unedig ar y Nodau Datblygu Cynaliadwy, sef glasbrint ar gyfer mynd i’r afael â llawer o’r heriau sy’n effeithio ar gymunedau ledled y byd. Mae angen ymgysylltiad amrywiol i gyflawni'r nodau hyn, gan gynnwys gan y rhai sy'n ymwneud â Gwyddorau’r Ddaear a’r Amgylchedd. Yn y gyfres hon, mae arbenigwyr o amrywiaeth o ddisgyblaethau yn trin ac archwilio’r cysyniad o ‘ddatblygu cynaliadwy’ ac yn trin a thrafod ei oblygiadau ar y defnydd o adnoddau naturiol amrywiol.

Mae ein Cyfres o Ddarlithoedd Cyhoeddus yn ddigwyddiadau rhad ac am ddim sy’n denu cynulleidfa amrywiol gan gynnwys y cyhoedd, disgyblion ysgolion uwchradd a gweithwyr proffesiynol. Nod y gyfres yw agor meysydd o ddiddordeb yng Ngwyddorau’r Ddaear a’r Amgylchedd a chyflwyno ymchwil newydd yn y maes hwn i'r cyhoedd.

Parcio

Mae ein rheolau parcio ar y campws wedi newid. Bydd parcio ym Maes Parcio Bute ond ar gael am ddim i fynychwyr sy'n cyflwyno rhif cofrestru eu cerbyd. Bydd taflen mewngofnodi ar gael yn ystod y ddarlith. Cofiwch gofnodi eich manylion ym mhob digwyddiad.

Ceir mynediad i faes parcio'r Prif Adeilad o Blas y Parc. Mae lleoedd parcio yn gyfyngedig iawn ac mae 5 man parcio hygyrch dynodedig. Gall deiliaid Bathodynnau Glas barcio am ddim. Gall ymwelwyr gadw lle parcio ymlaen llaw drwy gysylltu â  carparking@caerdydd.ac.uk.

Mae mannau parcio cyhoeddus ar gael ar y stryd ar hyd Plas y Parc a Rhodfa'r Amgueddfa. Codir tâl cyn 19:00.

Gweld Sero net a thu hwnt: y rôl ar gyfer echdynnu CO2 ar Google Maps
Darlithfa Wallace
Main Building
Plas y Parc
Caerdydd
CF10 3AT

Rhannwch y digwyddiad hwn


Digwyddiadau yn y gyfres hon

Sustainability - what next?