Ewch i’r prif gynnwys

BookTalk Caerdydd: Free Love (wyneb yn wyneb ac ar-lein)

Dydd Mawrth, 6 Rhagfyr 2022
Calendar 18:00-19:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Tessa Hadley's 'Free Love'

Mae'n bleser gan BookTalk Caerdydd eich gwahodd i Free Love: ein digwyddiad wyneb yn wyneb cyntaf ers 2020 gyda Tessa Hadley. Rydym yn cyfarfod yn Adeilad Morgannwg Prifysgol Caerdydd, Ystafelloedd Pwyllgor 1 a 2, Rhodfa'r Brenin Edward VII, CF10 3WT ar 6 Rhagfyr, 2022, 6pm (drysau'n agor am 5.30pm). Cefnogir y digwyddiad hwn gan Gronfa Ysbrydoli Cymunedau Llenyddiaeth Cymru.

Wedi'i gosod yn 1967, mae Free Love yn adrodd hanes Phyllis Fischer, sy'n cefnu ar ei bywyd confensiynol fel gwraig tŷ a mam i ddau o blant mewn maestrefi. Wrth ddianc i Ladbroke Grove, canolbwynt gwrthddiwylliant Llundain, mae hi'n mynd ar drywydd perthynas annhebygol gyda Nicky, hanner ei hoedran ac yn fab i ffrind agos i'w gŵr.

Gan groniclo effaith ei dewisiadau ar weddill teulu Fischer, mae Free Love yn archwiliad ffraeth a chwaethus o'r hyn sy'n digwydd pan fydd breuddwydion rhamantus am ryddid personol yn gwrthdaro â realiti llym, pan fydd gan deuluoedd gyfrinachau a pherthnasoedd yn flêr, pan fydd y troeon trwstan ym mywydau pobl yn cynnwys yr annisgwyl a'r digynllun.

Mae Free Love yn nofel wych am gariad a dianc mewn degawd cythryblus. - Frances Wilson

Nofel hudolus, yn dwyllodrus o hawdd ei darllen; dan yr wyneb y mae cwestiynau annifyr ac oesol am ryddid a ffawd yn nofio. - Hilary Mantel

Wedi'i strwythuro'n hyfryd ac ar gyflymder bendigedig. Mae'n arddangos sgil anhygoel Tessa Hadley wrth wneud i fywyd yr arwyneb a’r tu mewn dwfn ddod yn gwbl fyw. - Colm Tóibín

Portread hynod ddiddorol o fyd gwleidyddiaeth, moesau a dirywiad ymerodraeth mewn cyfnod o newid cymdeithasol cyflym... mae Hadley yn ysgrifennu cymeriadau hynod ddiddorol yr edrychir arnynt o bob ongl, gan grynhoi cyfnod o newid yn berffaith. — Kirsty McLuckie, The Scotsman

Mae Tessa Hadley yn byw yng Nghaerdydd ac mae'n awdur arobryn wyth nofel a thri chasgliad o straeon byrion. Mae ei nofelau, sy'n cynnwys The London Train, Clever Girl, a Late in the Day, wedi cyrraedd rhestr hir Gwobr Orange a Llyfr y Flwyddyn Cymru, ac yn 2016 enillodd Wobr Hawthornden ac un o Wobrau Windham-Campbell am ei chyfraniad at lenyddiaeth. Mae hi wedi ennill clod mawr am ei straeon byrion sydd wedi ymddangos mewn cyhoeddiadau gan gynnwys Granta a The New Yorker. Cyhoeddwyd Free Love, ei hwythfed nofel, ym mis Ionawr 2022 ac ar hyn o bryd mae'n cael ei datblygu ar gyfer cyfres ddrama deledu.

Bydd yr awdur yn sgwrsio gyda Dr Susan Morgan (Athrawes y Brifysgol mewn Ysgrifennu Creadigol a Beirniadol, Prifysgol Caerdydd), ac yna bydd cyfle i holi a thrafod y gynulleidfa. I wneud y gorau o'r sesiwn, efallai yr hoffech ddarllen Free Love. Mae testunau eraill a argymhellir yn cynnwys The London Train, Clever Girl, a Bad Dreams.

Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim, ac mae croeso i bawb. I'r rhai na allant gymryd rhan yn bersonol, bydd y digwyddiad hwn ar gael ar-lein, naill ai fel ffrwd fyw a/neu recordiad (manylion i'w cadarnhau).

Gweld BookTalk Caerdydd: Free Love (wyneb yn wyneb ac ar-lein) ar Google Maps
Committee Rooms
Glamorgan Building
Rhodfa’r Brenin Edward VII
Caerdydd
CF10 3WA

Rhannwch y digwyddiad hwn


Digwyddiadau yn y gyfres hon

Cardiff BookTalk