Ewch i’r prif gynnwys

Darlith Gyhoeddus - 'Trwyn Robespierre: Pryd a Gwedd a'r Portread Chwyldroadol'

Dydd Mercher, 7 Rhagfyr 2022
Calendar 19:00-20:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Robespierre's nose

Ar gyfer cyflwyniad mis Rhagfyr, mae’n bleser gennym groesawu Dr Marianne Gilchrist i siarad ar y thema: 'Trwyn Robespierre: Pryd a Gwedd a'r Portread Chwyldroadol'.

Sut allwn ni fod yn siŵr sut olwg oedd ar gymeriadau hanesyddol enwog mewn gwirionedd? Dim ond llond llaw o ffigurau pwysig o'r Chwyldro Ffrengig wnaeth fyw i gael lluniau wedi’u tynnu ohonynt. Sut allwn ni fod yn sicr o'r gweddill?

Ar drothwy'r Chwyldro Ffrengig, datblygodd Gilles-Louis Chrétien, sielydd llys, ddyfais physionotrace. Creodd hyn bortreadau cywir, wedi'u holrhain yn uniongyrchol o broffil yr eisteddwr fel fersiwn 'gadarnhaol' o silwét. Daeth yn hynod boblogaidd ym Mharis ac yn UDA. Gall portreadau a wneir fel hyn fod fel 'safon aur' i wirio hunaniaeth lluniau eraill.

Mae Maximilien Robespierre yn cynnig prawf-achos defnyddiol. Mae llawer o bortreadau yn cael eu hawlio fel rhai ohono ef, cafodd rhai eu hysgythru yn ystod ei oes, ac ni wnaeth rhai eraill ddod i’r amlwg ar y farchnad i gasglwyr tan y 19eg-20fed ganrif. A all ei broffil drwy’r dull hwn, gan gynnwys ei drwyn balch unigryw, ein helpu i ddilysu rhai portreadau honedig - gan gynnwys y 'mwgwd marwolaeth' fel y'i gelwir, a ddefnyddiwyd mewn dull dadleuol o ail-greu yn 2013? Faint ohonynt sy’n bortread cywir ohono, a faint sy’n ‘Faux-bespierres’?

Rhannwch y digwyddiad hwn


Digwyddiadau yn y gyfres hon

Exploring the Past lecture series