Ewch i’r prif gynnwys

Straeon Caerdydd: Her Body and Other Parties (ar-lein)

Dydd Mawrth, 15 Tachwedd 2022
Calendar 19:00-20:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Carmen Maria Machado

Mae’n bleser gan Sôn am Straeon Caerdydd eich gwahodd i’n digwyddiad ar-lein ddydd Mawrth, 15 Tachwedd 2022 i drafod Her Body and Other Parties gan Carmen Maria Machado. Bydd Dr Christina Wilkins (Prifysgol Birmingham), Dr Megen de Bruin-Molé (Ysgol Gelf Winchester ym Mhrifysgol Southampton), a Rosie Couch (Prifysgol Caerdydd) yn ymuno â ni. Dr Robert Lloyd o Brifysgol Caerdydd fydd yn arwain y sesiwn.

'(Os ydych chi'n darllen y stori hon yn uchel, gorfodwch wrandäwr i ddatgelu cyfrinach ysgytwol, ac yna, agorwch y ffenestr i’r stryd agosaf a'i sgrechian mor uchel ag y gallwch.)'

Dros gyfnod o ddegawd, mae Carmen Maria Machado wedi ennill ei phlwyf fel awdur llenyddol blaenllaw y rhyfedd a'r cythryblus. Mae ei ffuglen wedi'i gwreiddio'n ddwfn ym mhrofiadau cymhleth menywod o'u byd; mae ei chymeriadau yn cael eu hunain mewn sefyllfaoedd peryglus ac anfeddiannol, ac nid ydynt bob amser yn dod drwyddi y pen arall mewn un darn. Ac eto, mae ei straeon hefyd yn bortreadau hanfodol a dwys o fenyweidd-dra ar groesffordd realiti a ffantasi, materoldeb a myth, fydd yn aros yng nghof y rhan fwyaf o’i darllenwyr.

Mae gan Machado y ddawn o ysgrifennu mewn ffyrdd hyfryd o amrywiol ac idiosyncratig. Mae'n symud rhwng arddulliau Gothig, arswyd, a ffuglen wyddonol, gyda cyffyrddiadau o lên gwerin, realaeth hudolus a dystopia. Caiff hyn oll ei bweru gan ei gallu i arbrofi gyda ffurfiau llenyddol mewn ffyrdd chwilfrydig ac aflonyddgar, ac sy’n deillio o’i gwleidyddiaeth ffeministaidd di-flewyn-ar-dafod. Er i’w chofiant 2019, In the Dream House, gael canmoliaeth eang, ei chasgliad o straeon byrion, Her Body and Other Parties (2017) yn bennaf sydd wedi’i gwneud yn awdur mor adnabyddus a phoblogaidd. Mae stori agoriadol y casgliad, ‘The Husband Stitch’, yn cael ei chydnabod erbyn hyn fel un o’r darnau mwyaf dylanwadol o ffuglen yn ystod y degawd diwethaf, ac mae wedi ennyn cryn ddiddordeb ymhlith y darllenwyr sy’n cael ei denu ati.

Bydd pob un o'n siaradwyr yn cyflwyno papur 15-20 munud ar un elfen o gasgliad Machado, a bydd cyfle ar ôl hynny i gael trafodaeth a chwestiynau gan y gynulleidfa. I fwynhau’r sesiwn yn llawn, efallai yr hoffech chi ddarllen Her Body and Other Parties. Mae testunau eraill a argymhellir yn cynnwys ei chofiant In the Dream House.

Rhannwch y digwyddiad hwn


Digwyddiadau yn y gyfres hon

Cardiff BookTalk