Ewch i’r prif gynnwys

'Roedden ni'n meddwl ein bod ni'n ffrindiau!' Y Ddiplomyddiaeth ddwyochrog rhwng Ffrainc a Phrydain, dan bwysau

Dydd Mawrth, 29 Tachwedd 2022
Calendar 17:00-18:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Girl walking in street with smartphone in hand

Darlith gyhoeddus gyda’r siaradwr Yr Athro Helen Drake (Prifysgol Loughborough Llundain), yn rhan o’r thema ymchwil Astudiaethau Ardal Byd-eang sy’n Seiliedig ar Ieithoedd yn yr Ysgol.

Trefn y Digwyddiad
Sylwch y bydd y digwyddiad hwn yn un hybrid ei fformat: bydd y siaradwr gwadd yn cyflwyno eu papur yn y lleoliad a gall y sawl sydd â diddordeb ymuno wneud hynny naill ai wyneb yn wyneb neu ar-lein trwy Zoom.

Crynodeb
Roedd Brexit yn sioc i'r berthynas ddwyochrog rhwng Ffrainc a Phrydain (FBBR). Mae ansicrwydd gwleidyddol wedi bod ar y naill ochr i'r Sianel a’r llall ers hynny (yn enwedig yn y DU) sydd wedi hwyhau’r aflonyddwch. Efallai bod cydweithredu traws-Sianel, hyd yn oed pan fydd yn gweithio, yn dod yn llai arwyddocaol yn y byd sydd ohoni.  Yn y papur hwn dychwelaf at rai o ganfyddiadau yr ymchwil hon  ; lle bues i a’m cyd-awdur yr Athro Pauline Schnapper yn trin a thrafod arwyddocâd Brexit i’r FBBR. Byddaf yn ymhelaethu ar y canfyddiadau hyn gyda’r bwriad o ofyn cwestiynau dyrys am wleidyddiaeth diplomyddiaeth heddiw, a mynd i’r afael â’r cwestiynau hynny.  

Bywgraffiad
Helen Drake yw Cyfarwyddwr y Sefydliad ar gyfer Diplomyddiaeth a Llywodraethu Rhyngwladol (IDIG) ym Mhrifysgol Loughborough Llundain (sydd wedi’i leoli ar Barc Olympaidd y Frenhines Elizabeth). Yn Athro Ffrangeg ac Astudiaethau Ewropeaidd yn IDIG, a chyn hynny ar gampws Dwyrain Canolbarth Lloegr Prifysgol Loughborough, mae Helen yn addysgu myfyrwyr ôl-raddedig ac yn datblygu agenda ymchwil ar y cyd sy'n cysylltu gwahanol ddimensiynau diplomyddiaeth.  O 2012-2018 roedd Helen yn Gadeirydd UACES (Cymdeithas y Prifysgolion ar gyfer Astudiaethau Ewropeaidd Cyfoes) a rhwng 2016-2019 cynhaliodd ymchwil a ariannwyd gan ESRC ar Brexit ar y cyd â’r felin drafod ynghylch Y Deyrnas Unedig mewn Ewrop sy’n Newid.
Ebost: h.p.drake@lboro.ac.uk
Twitter: @FrancoBrit

Recordiad
Bydd y digwyddiad yn cael ei recordio er mwyn ei gyhoeddi ar ôl y digwyddiad.

Cyfieithu ar y pryd
Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â mlang-events@caerdydd.ac.uk erbyn dydd Mercher 23 Tachwedd i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd. Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.

Cofrestru
Cofrestrwch i fynychu'r digwyddiad hwn drwy glicio ar y botwm 'Cofrestrwch' ar ochr chwith y dudalen hon. Mae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg.

Hysbysiad Diogelu Data
Pan fyddwch yn cofrestru, cedwir eich data yn unol â’n Hysbysiad Diogelu Data. Byddwn yn prosesu’r data personol a ddarparwyd gennych yn unol â rheoliadau diogelu data.

Gweld 'Roedden ni'n meddwl ein bod ni'n ffrindiau!' Y Ddiplomyddiaeth ddwyochrog rhwng Ffrainc a Phrydain, dan bwysau ar Google Maps
Digwyddiad hybrid; gall mynychwyr ymuno ar-lein neu yn bersonol yn ystafell 1.31
66a Park Place
Cathays
Caerdydd
CF10 3AS

Rhannwch y digwyddiad hwn