Ewch i’r prif gynnwys

Gadewch i ni siarad am iechyd y ceilliau a ffrwythlondeb!

Dydd Mawrth, 1 Tachwedd 2022
Calendar 19:00-20:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

A cartoon of a doctor talking to their patient

Beth sy’n cael ei gynnig? 

Sesiwn ar-lein yw'r digwyddiad hwn i drafod teimladau a gwybodaeth am iechyd y ceilliau a ffrwythlondeb. Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn defnyddio gweithgareddau darlunio ac ysgrifennu i ystyried materion sy'n ymwneud â'u gwybodaeth am iechyd a ffrwythlondeb y ceilliau, a'u teimladau am drafod iechyd y ceilliau gyda chyfoedion, teulu a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.  

Dilynir hyn gan drafodaeth grŵp ynghylch sut y gall teimladau a gwybodaeth effeithio ar ymddygiad unigolyn wrth geisio cymorth a beth allai gael ei wneud i helpu dynion ifanc i drafod pryderon ynghylch iechyd y ceilliau a ffrwythlondeb. Gwahoddir y grŵp i wylio pedwar animeiddiad ar iechyd y ceilliau a ffrwythlondeb, a myfyrio ar sut maen nhw’n effeithio ar feddyliau, teimladau a gwybodaeth flaenorol ynghylch y pwnc. Datblygwyd yr animeiddiadau hyn mewn cydweithrediad â Chymdeithas Ffrwythlondeb Prydain.  

Pwy sy'n arwain y digwyddiad? 

China Harrison, Cydymaith Ymchwil yn yr Ysgol Seicoleg ym Mhrifysgol Caerdydd  

Jacky Boivin, Athro Seicoleg Iechyd ym Mhrifysgol Caerdydd  

I bwy mae'r digwyddiad? 

Mae'r digwyddiad hwn yn addas ar gyfer unigolion 14-25 oed.  

Rhannwch y digwyddiad hwn


Digwyddiadau yn y gyfres hon

ESRC Festival of Social Science