Ewch i’r prif gynnwys

LLÊN GWERIN: Chwedlau, Treialon a Chyfiawnder Amgylcheddol - Y Gyfraith drwy Adrodd Straeon

Dydd Gwener, 4 Tachwedd 2022
Calendar 14:00-16:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

-

Beth sy’n cael ei gynnig? 

Mae hwn yn ddigwyddiad adrodd straeon ‘o gwmpas y tân’, a bydd y chwedleuwr proffesiynol Milly Jackdaw, a Lucy Finchett-Maddock yn gweithio'n rhyngweithiol gyda chyfranogwyr ac aelodau'r gynulleidfa i adrodd chwedlau Cymreig dewisol o hanes a llên gwerin, er mwyn cyfathrebu a nodi egwyddorion y gyfraith a geir mewn ‘llên’. Bydd ffocws y straeon yn ymwneud yn benodol â chyfiawnder amgylcheddol, megis ‘Rhyfel y Sais Bach’ gan Eirion Jones ar hawliau cyffredin a stiwardiaeth, a'r hyn sydd fwyaf perthnasol i’r newid yn yr hinsawdd a'r amgylchedd, a ddewisir o'r Mabinogion.  

Am beth mae'r digwyddiad? 

Bydd cyfranogwyr yn cael eu cyflwyno i ddulliau adrodd straeon sylfaenol, yn ogystal â meysydd cyfraith sy'n ymwneud â'r amgylchedd (gan ganolbwyntio'n benodol ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015), er mwyn ystyried pa mor ddefnyddiol yw adrodd straeon fel dull o ddysgu am y gyfraith.  

Pwy sy'n arwain y digwyddiad? 

Lucy Finchett-Maddock, Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas Prifysgol Bangor 

Milly Jackdaw, Chwedleuwr Proffesiynol  

I bwy mae'r digwyddiad? 

Mae'r digwyddiadau yn agored i oedolion a phobl ifanc, ac yn arbennig o ddefnyddiol i bobl ifanc, er mwyn iddynt ddeall perthnasedd cyfraith heddiw o fewn traddodiadau llên gwerin ac adrodd straeon yng Nghymru, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny.  

Ystafell Glas
Pafiliwn Grange
Grange Gardens
Caerdydd
CF11 7LJ

Rhannwch y digwyddiad hwn


Digwyddiadau yn y gyfres hon

ESRC Festival of Social Science