Ewch i’r prif gynnwys

Gweithdy Arloesedd i Bawb: Her Prydau Ysgol Am Ddim yng Nghymru

Dydd Mercher, 23 Tachwedd 2022
Calendar 09:30-11:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Her Prydau Ysgol Am Ddim yng Nghymru

Un o’r polisïau mwyaf uchelgeisiol a ddeilliodd o’r Cytundeb Cydweithredu rhwng Llywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Cymru oedd yr ymrwymiad i ddarparu Prydau Ysgol Am Ddim Cyffredinol (UFSM) i holl blant ysgolion cynradd Cymru. Er bod hwn yn ymrwymiad polisi newydd canmoladwy iawn, mae hefyd yn bolisi heriol iawn pan fo awdurdodau lleol eisoes yn brwydro i gynnal gwasanaethau presennol yng nghanol pwysau deuol cyllidebau tynn a chostau bwyd a thanwydd sy’n cynyddu’n gyflym.

Bydd y seminar Arloesedd i Bawb hwn, dan arweiniad yr Athro Kevin Morgan, yn mynd i'r afael â gwahanol ddimensiynau her UFSM, gan ganolbwyntio'n benodol ar y tair problem fwyaf cyffredin - y seilwaith (ceginau ac ystafelloedd bwyta) i ddarparu ar gyfer y niferoedd cynyddol o blant; mater staffio - dwylo ychwanegol neu oriau ychwanegol ar gyfer staff arlwyo presennol; a chaffael bwyd maethlon.

Ymunwch â ni yn ystafell 6.35, Sbarc | Spark, Heol Maendy, Caerdydd i glywed y diweddaraf wrth bobl llywodraeth leol a chenedlaethol sy'n ymwneud â her UFSM.

Gweld Gweithdy Arloesedd i Bawb: Her Prydau Ysgol Am Ddim yng Nghymru ar Google Maps
Room 6.35
sbarc|spark
Heol Maendy
Cathays
Caerdydd
CF24 4HQ

Rhannwch y digwyddiad hwn