ESRC Gwyl Gwyddorau Cymdeithasol, Planhigion, arferion ac iechyd mislif
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr

Beth sy’n cael ei gynnig?
Mae’r gweithdy hwn yn archwilio cyd-destun hanesyddol a chymdeithasol sut rydym yn defnyddio planhigion, yn rheoli ein hiechyd corfforol ac yn cynrychioli byd natur. Mae'r drafodaeth yn edrych ar y cysylltiad rhwng gwahanol draddodiadau meddyginiaethol ac ecogyfeillgar ac arferion presennol, a sut mae'r rhain yn cael eu cynrychioli mewn lleoliadau cyhoeddus fel amgueddfeydd, gan ganolbwyntio ar wybodaeth sy'n berthnasol i bobl ac yn gysylltiedig â'u hamgylchedd lleol e.e. ardal Caerdydd.
Yn ystod y gweithdy byddwn yn dangos ac yn sôn am amrywiaeth o gynhyrchion a phlanhigion sydd wedi cael eu defnyddio gan fenywod ar hyd y blynyddoedd i’w cefnogi yn ystod eu mislif, ac yn ystyried sut mae arferion gofal personol, cysylltiadau cymdeithasol a phryderon ecolegol wedi effeithio ar wahanol dueddiadau ac wedi’u llywio. Byddwn yn cynnig cyfle i flasu te o dri gwahanol blanhigyn a bydd perlysieuyn sych yn cael ei gynnig i gyfranogwyr fynd ag ef adref.
Am beth mae’r digwyddiad?
Mae’r gweithdy hwn yn ystyried sut y gallwn ddatblygu gwybodaeth ymarferol am sut i ofalu am iechyd gan ddefnyddio perlysiau/planhigion fel cynhyrchion mislif, tra’n ystyried y ffordd orau o gyfleu’r wybodaeth hon i eraill mewn lleoliadau cyhoeddus. Mae’r ymchwil sy’n sail i’r digwyddiad hwn yn cael ei gwneud mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cymru.
Pwy sy'n arwain y digwyddiad?
Fiona Roberts, Myfyriwr Doethurol yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd
Alice Essam, Myfyriwr Doethurol yn Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd
Amelia Curtis-Rogers, Myfyriwr Doethurol yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd
O ddiddordeb i:
Mae'r digwyddiad hwn yn arbennig o addas ar gyfer oedolion a phobl ifanc sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am sut y gellir archwilio'r berthynas rhwng planhigion a phobl i gael profiad o 'fynd yn wyrdd' mewn bywyd pob dydd, tra'n ystyried y ffordd orau o rannu'r wybodaeth honno ag eraill.
Canolfan Cymunedol Cathays
36 – 38 Cathays Terrace
Caerdydd
CF24 4HX