Ewch i’r prif gynnwys

ESRC Gwyl Gwyddorau Cymdeithasol, Dathlu 10 mlynedd o Astudiaeth Aml-garfan Addysg WISERD: safbwyntiau a phrofiadau pobl ifanc yng Nghymru

Dydd Iau, 3 Tachwedd 2022
Calendar 15:00-16:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

WISERD logo: dark purple background with text 'WISERD' in white

Beth sy’n cael ei gynnig?

Elfen ganolog y digwyddiad hwn yw gweminar wedi'i recordio ymlaen llaw, ac yna sesiwn holi ac ateb fyw. Bydd y recordiad a holi ac ateb ar gael ar-lein yn dilyn y digwyddiad. Bydd cwestiynau ychwanegol hefyd yn cael eu hateb ar y cyfryngau cymdeithasol. 

Am beth mae’r digwyddiad?

Bydd y gweminar hwn yn cyflwyno Astudiaeth Aml-garfan Addysg WISERD, sef astudiaeth hydredol o’r newid mewn canfyddiadau disgyblion ysgolion uwchradd dros y 10 mlynedd diwethaf, a bydd yn rhoi cipolwg ar sut rydym yn gweithio gydag ysgolion a llunwyr polisïau. Y prif ffocws fydd dathlu llais disgyblion, a rhannu eu safbwyntiau newidiol ar faterion o ddiddordeb i lunwyr polisïau a gweithwyr proffesiynol, gan gynnwys: - Sut mae'r pandemig wedi effeithio ar brofiadau ysgol. - Canfyddiadau o’r ysgol wrth i’r broses o gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru barhau. - Ymgysylltu â disgyblion yn cynnwys materion fel gwleidyddiaeth, lles a chydraddoldeb - Uchelgeisiau a dyheadau ar gyfer gwaith, astudio a bywyd teuluol yn y dyfodol.

Pwy sy'n arwain y digwyddiad?

Laura Arman, Cydymaith Ymchwil ar gyfer WISERD ym Mhrifysgol Caerdydd 

Chris Taylor, Athro Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd

Rhian Barrance, Darlithydd yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd 

Sally Power, Athro Gwyddorau Cymdeithasol a Cyd-gyfarwyddwr ym Mhrifysgol Caerdydd

O ddiddordeb i:

Bydd y digwyddiad hwn o fudd i athrawon, llywodraethwyr ysgol, gweithwyr addysg proffesiynol a llunwyr polisïau yn enwedig, gan y bydd y rhai sy’n bresennol yn cael cipolwg ar y materion sy'n effeithio ar ddisgyblion. Bydd y rhai sy’n bresennol yn dysgu am sut mae WMCS yn dod ag ymatebion ar bynciau gwahanol at ei gilydd i greu darlun o fywydau disgyblion, a bydd athrawon hefyd yn dysgu sut gall eu hysgol gymryd rhan yn y prosiect yn y dyfodol.

Rhannwch y digwyddiad hwn


Digwyddiadau yn y gyfres hon

ESRC Festival of Social Science