Ewch i’r prif gynnwys

ESRC Gwyl Gwyddorau Cymdeithasol, Cerddoriaeth i'r Llygaid: Gweithdy ar Ganeuon yn Iaith Arwyddion Prydain

Dydd Sadwrn, 22 October 2022
Calendar 15:00-17:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Black and white photo of Paul Whittaker OBE, signing music

Beth sy’n cael ei gynnig?

Yn y sesiwn hon bydd Paul Whittaker OBE yn esbonio sut mae Iaith Arwyddion Prydain yn gweithio, yn annog cyfranogwyr i feddwl am wir ystyr cân y tu hwnt i'r geiriau, sut y gellir ei chyfieithu i Iaith Arwyddion Prydain a sut i gynnwys elfennau di-eiriau o'r testun cerddorol a'r emosiwn sydd mewn cân mewn perfformiad wedi'i arwyddo. Yn y digwyddiad hwn, mae'r pwyslais ar gymryd rhan. Byddwn yn dechrau gydag ychydig o ganeuon syml iawn gydag arwyddion syml, ac yna'n adeiladu i rywbeth ychydig yn fwy cymhleth. Bydd arweinydd y gweithdy, Paul Whittaker, yn cymryd rhan mewn sesiwn bord gron a sesiwn holi ac ateb wedi’u cadeirio gan Angela Tarantini, y mae ei chymrodoriaeth Marie Curie yn canolbwyntio ar gerddoriaeth a ddehonglir drwy iaith arwyddion.  Bydd cyfle i'r gynulleidfa ofyn cwestiynau a rhyngweithio ag un o arloeswyr arwyddo caneuon yn y DU.  

Dysgwch sgil newydd, dysgwch rywfaint o iaith arwyddion a, bwysicaf oll, mwynhewch (nid oes rhaid i chi ganu!)

Am beth mae'r digwyddiad?

Yn siaradwr diddorol, o fri, ym maes amrywiaeth, mae Paul Whittaker OBE, arweinydd y sesiwn, wedi treulio dros 30 mlynedd yn arwain gweithdai arwyddo caneuon, yn ogystal â bod yn gerddor ac yn berfformiwr Iaith Arwyddion Prydain, ar gyfer nifer o sioeau cerdd a chyngherddau ledled y DU. Mae hefyd yn aseswr ar gyfer cystadleuaeth arwyddo caneuon, a'i nod yw codi safon arwyddo caneuon yn Iaith Arwyddion Prydain.

Pwy sy'n arwain y digwyddiad?

Paul Whittaker OBE

Angela Tarantini, Cymrawd Ymchwil yn yr Ysgol Ieithoedd Modern ym Mhrifysgol Caerdydd

Monika Hennemann, Darllenydd mewn Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd

I bwy mae'r digwyddiad?

Mae'n agored i unrhyw un sydd â diddordeb mewn byddardod, iaith arwyddion, cerddoriaeth a'r celfyddydau. 

Gweld ESRC Gwyl Gwyddorau Cymdeithasol, Cerddoriaeth i'r Llygaid: Gweithdy ar Ganeuon yn Iaith Arwyddion Prydain ar Google Maps
Neuadd Cyngherddau
Music Building
31 Heol Corbett
Cathays
Caerdydd
CF10 3EB

Rhannwch y digwyddiad hwn


Digwyddiadau yn y gyfres hon

ESRC Festival of Social Science