Ewch i’r prif gynnwys

ESRC Gwyl Gwyddorau Cymdeithas, Gwariant mwy effeithiol er mwyn sicrhau cymdeithasau cynaliadwy: gêm fwrdd caffael cyhoeddus (sy'n gyfeillgar i deuluoedd)

Dydd Sadwrn, 5 Tachwedd 2022
Calendar 11:30-13:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Colourful game cards laid out flat

Beth sy’n cael ei gynnig?

Mae cymdeithasau’n wynebu heriau cymhleth ac mae ein gwasanaethau cyhoeddus (gofal iechyd, trafnidiaeth, ynni, tai, rheoli gwastraff, plismona ac ati) dan bwysau mawr. Ni allwn ddatrys problemau nad ydym yn eu trafod, felly dewch draw i chwarae gêm fwrdd newydd, sydd wedi’i dylunio i sbarduno sgyrsiau am wasanaethau cyhoeddus, dewisiadau ynghylch gwariant cyhoeddus, a pholisïau ar gyfer adeiladu cymdeithasau ffyniannus, gwydn, sy’n gyfrifol yn fyd-eang. Mae'r gêm fwrdd yn cael ei chwarae mewn timau o 4, ond gallwch ddod fel grŵp mwy neu lai o faint a chael eich paru â phobl eraill yn y fan a'r lle.

Am beth mae’r digwyddiad?

Dysgwch am yr ymchwil ddiweddaraf ar gaffael cyhoeddus sy’n digwydd ym Mhrifysgol Caerdydd gan Dr Oishee Kundu a yr Athro Jane Lynch, a dewch yn fwy ymwybodol o’ch ardal leol a’i threfniadau llywodraethu.

Pwy sy'n arwain y digwyddiad?

Oishee Kundu, Cydymaith Ymchwil ar gyfer Y Lab ym Mhrifysgol Caerdydd

Jane Lynch, Athro mewn Caffael ym Mhrifysgol Caerdydd

I bwy mae'r digwyddiad?

Mae'r digwyddiad hwn yn agored i oedolion

O ddiddordeb i:

Pobl sy'n hoffi gemau bwrdd a gwasanaethau cyhoeddus. 

Ystafell Melyn
Pafiliwn Grange
Grange Gardens
Caerdydd
CF11 7LJ

Rhannwch y digwyddiad hwn


Digwyddiadau yn y gyfres hon

ESRC Festival of Social Science