Ewch i’r prif gynnwys

Cornel Tsieineaidd: Athrylith Pensaernïaeth Tsieineaidd Draddodiadol

Dydd Mercher, 7 Rhagfyr 2022
Calendar 18:30-19:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Image of Chinese architecture

Efallai nad ydych wedi’i ystyried erioed, ond mae’r ffordd yr ydym yn adeiladu ein cartrefi a sut maent yn gweithredu’n adlewyrchu llawer am ein diwylliant. Ymunwch â Sefydliad Confucius Caerdydd ar gyfer y ddarlith hon gyda’r hwyr, wrth i ni ystyried hanes ac ystyr pensaernïaeth Tsieineaidd a sut mae’n effeithio ar fywyd pob dydd.

Bydd y sesiwn ryngweithiol hon yn cwmpasu pedwar prif bwnc, gyda digonedd o amser ar gyfer myfyrio a thrafod:

  1. Cyflwyniad: daearyddiaeth gwahanol ranbarthau Tsieina a nodweddion pensaernïol gwahanol grwpiau ethnig.
  2. Meddwl athronyddol mewn pensaernïaeth Tsieineaidd draddodiadol: Conffiwsiaeth a Taoaeth.
  3. Adeiladu strwythur: cydran wrth-seismig (dougong)
  4. Tai traddodiadol mewn amryw ranbarthau: Tai clos Beijing, preswylfeydd ar steil Hui, a Tulous.

Cynhelir y digwyddiad hwn ar-lein ar Zoom. Byddwn yn ebostio manylion i chi am sut i ymuno y diwrnod cynt.