Ewch i’r prif gynnwys

Gyfres Darlithoedd Caerdydd-Japaneaidd: Ymgysylltu â Japan: Tu hwnt i'r Stereoteipiau

Dydd Mercher, 26 October 2022
Calendar 12:00-13:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Darlith gyhoeddus ar-lein gyda Dr Jennifer Coates (Prifysgol Sheffield) fel rhan o’r Gyfres Darlithoedd Caerdydd-Japaneaidd sy'n archwilio agweddau cymdeithasol-ddiwylliannol ar ddysgu iaith Japaneaidd. Mae ymchwil ac addysgu'r siaradwr yn canolbwyntio ar y groesffordd rhwng Astudiaethau Japaneaidd â ffilmiau, hanes, hanes celf, ac anthropoleg. A ariennir gan Sefydliad Japan yn Llundain.

Amy gyfres
Mae myfyrwyr Japaneeg fel Iaith Dramor yn cael llai o gyfleoedd i ddod i ddeall gwybodaeth gyfoes berthnasol neu ddeall cyd-destunau diwylliannol oherwydd eu bod yn astudio y tu allan i Japan. At hynny, mae cydnabod cymdeithas Japaneaidd mewn ystyr ehangach ac ystyried sut y gellir cymhwyso eu gallu ieithyddol yn y Japaneeg i'w dyfodol eu hunain yn heriau i ddysgwyr o'r fath. Mae’n hanfodol felly nid yn unig dysgu’r iaith darged ond hefyd gwybod am agweddau amlweddog y wlad. Ar ben hynny, mae angen cymorth ar athrawon sy'n ymwneud ag addysg iaith Japaneeg y tu allan i Japan o ran cael gafael ar a rhannu'r wybodaeth ddiweddaraf sy'n adlewyrchu llawer o'r tueddiadau a'r normau presennol yn y gymdeithas Japaneaidd gyfoes, er mwyn cyflwyno profiad dysgu mwy dilys.

Nod Cyfres Darlithoedd Caerdydd-Siapan yw rhoi cyfle i’r rhai sy'n astudio iaith a diwylliant Japaneaidd ym Mhrifysgol Caerdydd, a hefyd yr amrywiol ddysgwyr, athrawon ac ymchwilwyr sydd â diddordeb yn Japan i archwilio a deall agweddau cymdeithasol-ddiwylliannol ar ddysgu iaith.

Crynodeb
Sut ydyn ni'n ymgysylltu â chymdeithas Japan ac yn ein bywyd bob dydd sydd wedi'i globaleiddio? Bydd y cyflwyniad byr hwn yn mynd â ni y tu hwnt i astudio Japaneeg yn unig. Bydd yn cyflwyno nifer o ffyrdd o ymgysylltu â Japan, o astudiaeth bellach i addysgu ac ymarfer creadigol. Byddwn yn trafod y gwahanol fathau o gyfleoedd sydd ar gael i ddysgwyr Japaneeg, ac yn edrych ar sut y gallai'r profiadau hyn gyfoethogi eich bywyd boed dramor neu yn ôl yn y DU.

Bywgraffiad
Mae Jennifer Coates yn Uwch-ddarlithydd mewn Astudiaethau Japaneeg yn Ysgol Astudiaethau Dwyrain Asia, Prifysgol Sheffield. Hi yw awdur Making Icons: Repetition and the Female Image in Japanese Cinema, 1945-1964 (Gwasg Prifysgol Hong Kong 2016) a Film Viewing in Postwar Japan, 1945-1968: An Ethnographic Study (Gwasg Prifysgol Caeredin, 2022) yn ogystal â nifer o erthyglau mewn cyfnodolion a phenodau llyfrau ar sinema a chynulleidfaoedd yn Japan ar ôl y rhyfel ac yn y cyfnod cyfoes. Mae hi wedi astudio, gweithio a dysgu yn Tokyo a Kyoto ers dros 6 mlynedd.

Trefn y Digwyddiad & recordio
Bydd  y digwyddiad yn cael ei gynnal ar-lein fel gweminar Zoom a byddwn yn recordio’r gweminar er mwyn ei gyhoeddi ar ôl y digwyddiad.

Cyfieithu ar y pryd
Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â mlang-events@caerdydd.ac.uk erbyn dydd Mercher 19 Hydref i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd. Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.

CofrestruCofrestrwch i fynychu'r digwyddiad hwn drwy glicio ar y botwm 'Cofrestrwch' ar ochr chwith y dudalen hon. Mae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg.

Hysbysiad Diogelu Data
Pan fyddwch yn cofrestru, cedwir eich data yn unol â’n Hysbysiad Diogelu Data. Byddwn yn prosesu’r data personol a ddarparwyd gennych yn unol â rheoliadau diogelu data.

Rhannwch y digwyddiad hwn