Ewch i’r prif gynnwys

Argyfwng Brodorol y cymunedau Gaeleg yn Iwerddon a’r Alban, Yr Athro Conchúr Ó Giollagáin

Dydd Mawrth, 8 Tachwedd 2022
Calendar 13:00-14:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Mae pryder gwirioneddol ynghylch dyfodol yr Aeleg yn yr Alban a'r Wyddeleg yn Iwerddon (Ó Giollagáin et al. 2007; Giollagáin a Charlton 2015; Taylor 2016; MacKinnon 2011; Ó Giollagáin et al. 2020; Péterváry et al. 2014). O ystyried y canrifoedd o esgeuluso a phardduo a ddaeth i law cymunedau Gaeleg a Gwyddeleg eu hiaith a'u diwylliant, mae'r ymdrechion i ddatblygu polisïau swyddogol i gefnogi’r Aeleg a’r Wyddeleg wedi gorfod ymdopi â chryn nifer o heriau hanesyddol. Mae’r agweddau penodol ar bolisïau iaith yn y cyfnod cyfoes wedi canolbwyntio ar feysydd darpariaeth addysgol ar gyfer yr Wyddeleg a’r Aeleg, mentrau darlledu a chynyddu amlygrwydd a’r defnydd o'r Aeleg a’r Wyddeleg mewn meysydd swyddogol a chyhoeddus fel ei gilydd. Er gwaethaf y gwaith sylweddol sydd wedi’i gyflawni hyd yn hyn, mae polisïau cymdeithasol ehangach sy'n anelu at gefnogi'r defnydd o'r Aeleg yn y cartref ac mewn lleoliadau cymunedol heb dderbyn digon o sylw, ac mae hyn yn gyfystyr â diystyru'r cyd-destunau cymdeithasol hynny lle bydd cymhwysedd ieithyddol yn cael ei gaffael ac arferion iaith leiafrifol yn y gymdeithas yn cael eu hatgyfnerthu.

Mae'r papur hwn yn defnyddio canfyddiadau prosiectau ymchwil o bwys yn yr Alban ac Iwerddon (Ó Giollagáin et al. 2007; Giollagáin a Charlton 2015; (Péterváry et al. 2014); ac yn arbennig felly, The Gaelic Crisis in the Vernacular Community (Ó Giollagáin et al. 2020) i asesu'r heriau o ran polisi ynghlwm wrth ddarparu ar gyfer cymunedau dan fygythiad difrifol sy’n siarad ieithoedd lleiafrifol. Rydym yn dadlau bod y fframwaith Polisi a Chynllunio Iaith (LPP) sydd wedi ei hen sefydlu wedi arwain at ddulliau o ymdrin â phryderon cymunedau brodorol sy’n dirywio gan nad ydynt yn ystyried y gymdeithas a’u bod oherwydd hynny'n aneffeithiol. Rydym wedi pennu'r dull hwn nad yw'n optimaidd yn enghraifft o hyrwyddo iaith nad yw’n diogelu’r iaith yn ddigonol. Yn lle hynny, awgrymir dull gwahanol o lunio polisïau sy'n ceisio mynd i'r afael â’r diffygion LPP ynghlwm wrth status quo yr iaith leiafrifol dan sylw. Mae'r papur hwn yn dadlau dros flaenoriaethu dull gwahanol o ran LPP sy'n canolbwyntio ar bryderon y gymuned frodorol, a hynny er mwyn osgoi y llwybr LPP cyfredol ynghlwm wrth hyrwyddo ieithoedd lleiafrifol, sef ei fod yn gwrthddweud ei hun oherwydd bod y llwybr hwn yn gysylltiedig â dileu'r grŵp lleiafrifol brodorol.

 

Mae Conchúr Ó Giollagáin yn hanu o Ddulyn. Bu’n byw am lawer o flynyddoedd mewn nifer o ranbarthau’r Gaeltacht lle y siaredir yr Wyddeleg cyn dod i Brifysgol yr Ucheldiroedd a’r Ynysoedd (UHI) yn 2014. Mae bellach yn byw yn Inverness. Ef yw Athro Ymchwil Gaeleg UHI a chyfarwyddwr Sefydliad Gwyddorau Iaith UHI. Ef hefyd yw cyfarwyddwr academaidd Soillse, prosiect ymchwil amlddisgyblaethol ac aml-sefydliadol a leolir yng ngholeg cenedlaethol yr Alban ar gyfer yr Aeleg, sef Sabhal Mòr Ostaig, ar Ynys Skye. Yn 2015 fe’i penodwyd yn Athro Cynorthwyol yn Ysgol Gwyddorau Gwleidyddol a Chymdeithaseg, Prifysgol Genedlaethol Iwerddon, Galway. Yn ddiweddar mae Prifysgol Ulster yn Belfast wedi penodi Conchúr yn Athro Gwadd ar gyfer y cyfnod 2022-2025.

Mae Conchúr yn ysgolhaig blaenllaw ym maes cynllunio ieithyddol a diwylliant a chymdeithaseg ieithoedd lleiafrifol. Mae wedi ysgrifennu'n helaeth ar faterion sy’n ymwneud â chynaliadwyedd diwylliannau lleiafrifol, yn enwedig cymunedau'r Gaeltacht yn Iwerddon a'r Alban.

Cyn hynny bu Conchúr yn darlithio yn Ysgol y Gwyddorau Gwleidyddol a Chymdeithaseg ym Mhrifysgol Genedlaethol Iwerddon Galway ar gymdeithaseg iaith. Ymhlith ei ddiddordebau addysgu ac ymchwil y mae cynllunio iaith, ieithyddiaeth gymdeithasol, anthropoleg ieithyddol a bywgraffiadau pobl y Gaeltacht. Cyn hynny, bu’n Bennaeth yr Uned Cynllunio Ieithyddol yn Acadamh na hOllscolaíochta Gaeilge (coleg cyfrwng Gwyddeleg Iwerddon yn NUI Galway), lle bu’n llunio ac yn arwain rhaglen MA gyntaf Iwerddon ym maes Cynllunio Ieithyddol. Cyfrannodd hefyd at ddatblygu MA Gwyddorau Iaith yr Acadamh.

 

Yn 2020, ar y cyd â chydweithwyr eraill, cyhoeddodd yr arolwg cymdeithasol-ieithyddol mwyaf cynhwysfawr o hyd a lled defnydd cymdeithasol yr Aeleg ymhlith  siaradwyr Gaeleg yn y cymunedau hynny sy’n weddill yn yr Alban lle siaredir yr iaith: The Gaelic Crisis in the Vernacular Community: A Comprehensive Sociolinguistic Survey of Scottish Gaelic (Gwasg Prifysgol Aberdeen; Crynodeb Ymchwil: https://www.uhi.ac.uk/cy/t4-media/one-web/university/research/lsi/research-digest-gearr-iris -ymchwil-/Ge%C3%83%C2%A0rr-iris-Rannsachaidh_The-Gaelic-Crisis-in-the-Vernacular-Community.pdf). Ef oedd cyd-awdur yr arolwg o’r Gaeltacht a gomisiynwyd gan y llywodraeth, sef Comprehensive Linguistic Study of the Use of Irish in the Gaeltacht (2007: https://www.cogg.ie/wp-content/uploads/Linguistic-Study-of-the-Use- of-Irish-in-the-Gaeltacht.pdf). Cyhoeddwyd diweddariad o'r astudiaeth Nuashonrú ar an Staidéar Cuimsitheach Teangeolaíoch ar Úsáid na Gaeilge sa Ghaeltacht:  2006–2011 (An Update of the Comprehensive Linguistic Study of the Use of Irish in the Gaeltacht) yn 2015 (https://www.udaras.ie/assets/uploads/2020/11/002910_Udaras_NuashonruI%C2%81_EXCERPT_report_A4_2.pdf).  Ynghyd â Tamás Péterváry, Brian Ó Curnáin a Jerome Sheahan cyhoeddodd yr astudiaeth fawr gyntaf o gaffael dwyieithog yn Iwerddon, Iniúchadh ar an gCumas Dátheangach: An sealbhú teanga i measc ghlúin óg na Gaeltachta / Assessment of Bilingual Competence: Language acquisition among people in the Gaeltacht ( https://www.cogg.ie/wp-content/uploads/iniuchadh-ar-an-gcumas-datheangach-1.pdf ). Mae wedi cyd-olygu dau lyfr arloesol, Beartas Úr na nGael: Dálaí na Gaeilge san Iar-Nua-Aoiseachas [Bargen Newydd y Gwyddelod Gwyddeleg: Yr Wyddeleg yn Oes Ôl-fodernedd] (2016) ac An Chonair Chaoch: an Mionteangachas sa Dátheangachas (2012) sy’n trin a thrafod cyflwr ieithoedd lleiafrifol o safbwynt y rheini sydd â’r diwylliant lleiafrifol yn brif hunaniaeth iddynt. Ar y cyd â Micil Chonraí, cyhoeddodd Stairsheanchas Mhicil Chonraí: Ón Máimín go Ráth Chairn. (Cló Iar-Chonnachta 1999), a gyfieithwyd wedyn gan y diweddar Jean Le Dû, a'i gyhoeddi gyda’r teitl Une Vie Irlandaise. Du Connemara à Ráth Chairn: Histoire de la Vie de Micil Chonraí (Terre de Brume 2010).

Rhannwch y digwyddiad hwn