Ewch i’r prif gynnwys

Sioe Deithiol Gyrfaoedd Almaeneg: “Dewiswch Yrfa – Dewiswch yr Almaen(eg)”

Dydd Mercher, 5 October 2022
Calendar 10:00-17:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

German Roadshow image

Am y digwyddiad
Mae Ysgol Ieithoedd Modern Prifysgol Caerdydd yn cynnal diwrnod gwybodaeth am swyddi ac astudiaethau Almaeneg i fyfyrwyr mewn ysgolion uwchradd a phrifysgolion o Gaerdydd. Mae’r digwyddiad wedi’i drefnu gan Goethe-Institut yn Llundain mewn cydweithrediad â Llysgenhadaeth yr Almaen yn Llundain, Gwasanaeth Cyfnewid Academaidd yr Almaen (DAAD) ac UK-German Connection.

Bydd y digwyddiad yn rhoi cyfle ardderchog i ddarganfod rhagor am y cyfleoedd y gall Almaeneg eu cynnig. Bydd rhaglen amrywiol yn cynnwys sesiynau blasu Almaeneg gydag Adran Almaeneg yr Ysgol Ieithoedd Modern, cyflwyniadau byr gan arbenigwyr o fyd diwydiant a sefydliadau addysg, gan gynnwys gweithdai, stondinau a gweithgareddau eraill. Bydd yn dangos pa mor berthnasol yw Almaeneg wrth ystyried gyrfaoedd a sut y gall yr iaith agor y drws i wahanol swyddi gartref neu dramor.

Bydd sesiwn flasu ar gyfer dechreuwyr ac un arall ar gyfer y rhai sy’n astudio’r iaith ar lefel uwch yn yr ysgol. Bydd pob sesiwn yn para rhwng 35 a 40 munud.

Rhaglen
Bydd rhaglen lawn y diwrnod ar gael yn fuan.

Cofrestru
Mae angen cofrestru ymlaen llaw erbyn diwedd busnes ar ddydd Mawrth 20 Medi. Cliciwch ar y botwm 'Cadw lle', a fydd yn mynd â chi i'r brif dudalen gofrestru.

Hysbysiad Diogelu Data Pan fyddwch yn cofrestru, cedwir eich data yn unol â’n Hysbysiad Diogelu Data. Byddwn yn prosesu’r data personol a ddarparwyd gennych yn unol â rheoliadau diogelu data.

Gweld Sioe Deithiol Gyrfaoedd Almaeneg: “Dewiswch Yrfa – Dewiswch yr Almaen(eg)” ar Google Maps
Siambr y Cyngor yn y Prif Adeilad
Main Building
Plas y Parc
Caerdydd
CF10 3AT

Rhannwch y digwyddiad hwn