Ewch i’r prif gynnwys

Newid meddyliau neu newid systemau i osgoi newid hinsawdd peryglus?"

Dydd Mawrth, 29 Tachwedd 2022
Calendar 15:00-16:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Image of a parent's hand passing the globe to an infant's hand

Mae’r rhybuddion a ddaw o adroddiadau asesu diweddaraf Panel Rhynglywodraethol y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd (IPCC) yn amlwg.  Mae angen i'r byd wneud toriadau radical i allyriadau nwyon tŷ gwydr a hynny ar unwaith i gadw cynhesu byd-eang yn is na 1.5⁰C.  Mae pob rhanbarth o'r byd yn cael ei effeithio'n ddifrifol gan argyfwng yr hinsawdd, gyda sychder, llifogydd a thywydd poeth yn digwydd yn amlach.  Mae effeithiau negyddol ar systemau dynol a naturiol, gan gynnwys colled ddifrifol mewn bioamrywiaeth, yn dod yn amlwg.  Mae angen ymatebion brys mewn ardaloedd trefol a gwledig, ac mae cydweithredu rhyngwladol yn hanfodol i liniaru newid hinsawdd.


Mae'r wyddoniaeth yn glir. Eto i gyd, mae petruso gan wleidyddion, y cyfryngau a'r cyhoedd o ran blaenoriaethu mater yr hinsawdd a chymryd y camau angenrheidiol. Sut mae cyflawni'r newidiadau sydd eu hangen yn ein cymdeithas a'n heconomi, mewn ffyrdd sy'n deg ac yn gynhwysol?  A ddylen ni ddibynnu ar arloesi a thechnolegau newydd? Neu oes angen newid agweddau a meddylfryd tuag at yr amgylchedd?  Os felly, sut a phryd? A allwn ni ymgysylltu â'r cyhoedd? A allwn ni gynnwys y cyhoedd yn hyn oll? A yw'n bosibl creu ffordd o gyfrannu’n weithredol a hynny ar draws y gymdeithas ehangach?  


Ymunwch â'n panel o arbenigwyr i drafod y materion argyfyngus hyn, ac i geisio datrysiadau.  Cewch chi, y gynulleidfa, gyfle i osod cwestiynau a bod yn rhan o'r ddadl.  Mae’r gweminar hwn yn rhad ac am ddim. Croeso i bawb.

Ein panel o arbenigwyr

  • Yr Athro Karen O'Brien, Athro Daearyddiaeth Ddynol. Prifysgol Oslo; Cyd-gadeirydd Asesiad Newid Trawsnewidiol Platfform Rhynglywodraethol UNESCO ar Fioamrywiaeth a Gwasanaethau Ecosystemau (IPBES)
  • Yr Athro Nebojsa Nakicenovic, Ysgolhaig Emeritws yn y Sefydliad Rhyngwladol ar gyfer Dadansoddi Systemau Cymhwysol (IIASA) ac Athro yn TU Wien; Dirprwy Gadeirydd y Grŵp o Brif Ymgynghorwyr Gwyddonol i'r Comisiwn Ewropeaidd
  • Yr Athro Antje Wiener, Athro Gwyddor Wleidyddol a Llywodraethu Byd-eang, Prifysgol Hamburg
  • Yr Athro Matthias Karmasin, Cyfarwyddwr y Sefydliad Astudiaethau Cyfryngau Cymharol a Chyfathrebu (CMC) Academi Gwyddorau Awstria a Phrifysgol Klagenfurt

Yr Athro Ole Petersen, Is-lywydd Academia Europaea fydd yn cadeirio'r sesiwn.

Rhannwch y digwyddiad hwn