Ewch i’r prif gynnwys

Mwynau ar gyfer y trawsnewid ynni: adnoddau'r glannau

Dydd Mawrth, 11 October 2022
Calendar 18:30-20:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Yr Athro Wolfgang Maier (Prifysgol Caerdydd)

Mae’r argyfwng amgylcheddol byd-eang presennol, sy’n cael ei gynrychioli orau gan argyfwng yr hinsawdd, yn fygythiad uniongyrchol i ddynoliaeth. Mae defnyddio technolegau cynaliadwy yn lle cynhyrchu ynni sy’n seiliedig ar hydrocarbonau, mewn cyfnod o ychydig ddegawdau, yn her fawr. Yn ystod y degawd hwn, bydd yr angen am gelloedd tanwydd, batris, celloedd ffotofoltaidd a thyrbinau gwynt yn arwain at gynnydd o fwy na 100% yn y galw am lawer o fetelau allweddol. Ni fydd cynyddu faint sy’n cael ei ailgylchu’n unig yn gallu ateb y galw hwn. Felly, mae cynhyrchu mwy o fetelau drwy fwyngloddio’n hanfodol. Fodd bynnag, mae cael hyd i ddyddodion metel o ansawdd uchel ar lefel gramennol gymharol fas yn dod yn anoddach, tra bod cystadlu ffyrnig am fetelau a dirywiad yn agwedd cymdeithas at fwyngloddio ledled y byd. Yn y sesiwn hon, byddaf yn amlinellu rhai o’r prif heriau a’r atebion posibl.

Cynaladwyedd - beth nesaf?

Mae ein Cyfres o Ddarlithoedd Cyhoeddus yn ddigwyddiadau rhad ac am ddim sy’n denu cynulleidfa amrywiol gan gynnwys y cyhoedd, disgyblion ysgolion uwchradd a gweithwyr proffesiynol. Nod y gyfres yw agor meysydd o ddiddordeb yng Ngwyddorau’r Ddaear a’r Amgylchedd a chyflwyno ymchwil newydd yn y maes hwn i'r cyhoedd.

Sut fath o le rydym ni eisiau i’r byd fod yn 2030, a sut mae cyflawni hyn? Yn 2015, cytunodd Aelod-wladwriaethau’r Cenhedloedd Unedig ar y Nodau Datblygu Cynaliadwy, sef glasbrint ar gyfer mynd i’r afael â llawer o’r heriau sy’n effeithio ar gymunedau ledled y byd. Mae angen ymgysylltiad amrywiol i gyflawni'r nodau hyn, gan gynnwys gan y rhai sy'n ymwneud â Gwyddorau’r Ddaear a’r Amgylchedd. Yn y gyfres hon, mae arbenigwyr o amrywiaeth o ddisgyblaethau yn trin ac archwilio’r cysyniad o ‘ddatblygu cynaliadwy’ ac yn trin a thrafod ei oblygiadau ar y defnydd o adnoddau naturiol amrywiol.

Gweld Mwynau ar gyfer y trawsnewid ynni: adnoddau'r glannau ar Google Maps
Narlithfa Wallace (Ystafell 0.13)
Main Building
Plas y Parc
Caerdydd
CF10 3AT

Rhannwch y digwyddiad hwn


Digwyddiadau yn y gyfres hon

Sustainability - what next?