Ewch i’r prif gynnwys

Gwerthoedd a Rhinweddau ar gyfer Byd Heriol

Dydd Mercher, 21 Medi 2022
Calendar 09:30-16:15

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Image of mosiac wall in Pierhead Building, Caerdydd, Cardiff, Wales

Rydym yn byw mewn byd sy’n anodd rhagweld. Mae newid yn yr hinsawdd, pandemigau feirysol, rhyfeloedd a mudo torfol yn cyflwyno heriau newydd yn barhaus, tra bod y cynnydd yn y cyfryngau cymdeithasol wedi newid sut rydym yn deall ein hunain ac yn meddwl am ein sefyllfaoedd.

Beth yw’r agweddau, y sgiliau, a’r gwerthoedd y dylem eu meithrin er mwyn i ni allu ymateb yn dda i heriau nad oes modd eu rhagweld mewn byd sy’n newid yn gyflym?

Mae’r digwyddiad hwn yn dod ag athronwyr academaidd ynghyd â gweithwyr proffesiynol ym maes polisi cyhoeddus ac addysg i drin a thrafod ystod o syniadau mewn ymateb i’r cwestiwn hwn. Bydd pum sesiwn:

  • Blas Da a’r Profiad o Werth
  • Cyfryngau Cymdeithasol, Camwybodaeth a Pholareiddio
  • Chwilfrydedd, Gonestrwydd a Hunanreoleiddio
  • Doethineb a Gwneud Penderfyniadau ar y Cyd
  • Ansicrwydd a Pholareiddio

Bydd llawer o amser ar gyfer sgyrsiau anffurfiol. Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn ffyrdd ymarferol o feithrin agweddau, sgiliau a gwerthoedd defnyddiol trwy addysg, polisi cyhoeddus, a dylunio cyfryngau, sefydliadau a mannau.

Trefnir y diwrnod gan Brifysgol Caerdydd ar y cyd â’r Sefydliad Athroniaeth Frenhinol.

Neuadd Fawr
Pierhead
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF10 4PZ

Rhannwch y digwyddiad hwn