Ewch i’r prif gynnwys

Sôn am Straeon Caerdydd: Klara and the Sun gan Kazuo Ishiguro

Dydd Mercher, 29 Mehefin 2022
Calendar 19:00-20:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Klara and the Sun cover with BookTalk logo

Mae'n bleser gan Sôn am Straeon Caerdydd eich gwahodd i'n digwyddiad ar 29 Mehefin 2022, lle byddwn yn edrych ar Klara and the Sun gan Kazuo Ishiguro.

Nid yw byth yn hawdd bod yn un o’r prif gymeriadau mewn nofel gan Kazuo Ishiguro. Yn y llyfr hwn, ei lyfr cyntaf ers ennill Gwobr Nobel mewn Llenyddiaeth 2017, rydym yn cwrdd â Klara, Cyfaill Artiffisial, a Josie, merch ifanc â salwch dirgel sy’n dewis Klara yn gydymaith.

Efallai nad un o’r modelau B3 newydd dymunol yw Klara, ond mae’n chwilfrydig ac yn graff, a thrwy ei llygaid hi, rydym yn darganfod byd dystopaidd ochr yn ochr â’n byd ni – gweledigaeth ryfedd o gonau a phetryalau, plant unig, maeth yr Haul a’r ‘Cootings Machine’ anfad. Mae Klara eisoes yn gwybod na allwch ddibynnu ar air plentyn, ond mae ei theulu newydd yn cuddio pethau rhagddi, ac mae gan fam Josie ei rhesymau ei hun dros eisiau Cyfaill Artiffisial i’w merch.

Ac yntau wedi'i ysgrifennu mewn rhyddiaith syml a chryno, mae Klara and the Sun yn ffuglen wyddonol ac enigmatig sy’n archwilio gwaith golygu genynnau, cwymp cymdeithas a phŵer caredigrwydd, gobaith a chariad.

Bydd Sôn am Straeon Caerdydd yn croesawu dau siaradwr arbenigol, Dr Dominic Dean (Prifysgol Sussex) a Dr Richard Rankin Russell (Prifysgol Baylor, Texas), a fydd yn arwain ein trafodaeth ynghylch Klara and the Sun.

Bydd pob un o'n siaradwyr yn rhoi cyflwyniad 10-15 munud o hyd, a bydd cyfle ar ôl hynny i’r gynulleidfa ofyn cwestiynau a thrafod. I wneud y gorau o'r sesiwn, efallai yr hoffech ddarllen Klara and the Sun. Mae testunau pellach a argymhellir yn cynnwys y nofelau The Buried Giant, Never Let Me Go a The Remains of the Day gan Kazuo Ishiguro.

Rhannwch y digwyddiad hwn