Ewch i’r prif gynnwys

PRB Cronfa Her - Problem a Rennir: Digwyddiad Cymuned Ymarfer

Dydd Mawrth, 12 Gorffennaf 2022
Calendar 10:00-13:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

CCR Challenge Fund - Community of Practice flyer

Rydym ni (Cronfa Her Prifddinas-Ranbarth Caerdydd) yn falch iawn o lansio ein Cymuned Ymarfer. Os oes gennych her gymdeithasol na ellir mynd i’r afael â hi, mae ein Cymuned Ymarfer yn lle gwych i ddechrau eich taith i ddatrys y broblem honno.

Bydd y digwyddiad yn dod â gweithwyr proffesiynol o'r sector cyhoeddus a'r trydydd sector ynghyd ar draws rhanbarth De-ddwyrain Cymru i gyflawni un nod – cyfnewid syniadau, ac yn rhan o’r broses, ddysgu oddi wrth ein gilydd.

Rhesymau dros ymuno â'r digwyddiad hwn

  • Cyfathrebu a chydweithio â phobl o bob rhan o Brifddinas-Ranbarth Caerdydd
  • Rhannu syniadau ac arfer gorau gyda chydweithwyr mewn Awdurdodau Lleol eraill, mewn sesiynau rhwydweithio strwythuredig a di-strwythur
  • Cael gwybod rhagor am y Gronfa Her a sut y gallwn eich helpu i wneud cysylltiadau â phartneriaid hanfodol

Pwy ydym ni?

Nod Cronfa Her Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yw sicrhau cyfoeth yn lleol ac ysgogi twf economaidd drwy arloesedd a arweinir gan heriau. Rydym yn cefnogi cyrff y sector cyhoeddus yn y rhanbarth i nodi problemau cymdeithasol na allant eu datrys, datblygu a chynnal heriau a chysylltu â sefydliadau a all gynnig atebion arloesol i'r heriau hynny.

Ewch i’n gwefan i gael rhagor o wybodaeth amdanom.

Gweld PRB Cronfa Her - Problem a Rennir: Digwyddiad Cymuned Ymarfer ar Google Maps
0.47
sbarc|spark
Heol Maendy
Cathays
Caerdydd
CF24 4HQ

Rhannwch y digwyddiad hwn