Ewch i’r prif gynnwys

Sioe Myfyrwyr WSA 2022

Dydd Gwener, 24 Mehefin 2022
Calendar 18:00-21:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

WSA Summer show 2022

Mae'n bleser gennym eich gwahodd i Sioe Myfyrwyr WSA 2022.

Bydd Sioe Myfyrwyr WSA 2022 yn cynnwys gwaith a gynhyrchwyd gan fyfyrwyr Ysgol Pensaernïaeth Cymru yn ystod blwyddyn academaidd 2021/2022.

Eleni, bydd yr arddangosfa'n cynnwys y 'prosesau' dylunio a'r allbynnau dros dro sy'n llywio cynigion terfynol ein myfyrwyr. Bydd yn rhoi cipolwg unigryw i chi ar yr archwiliadau, y cwestiynau a'r arbrofion sy'n llywio'r gwaith o gynhyrchu cynnig pensaernïol. Mae'n dogfennu tarddiad a datblygiadau syniadau dylunio, sut mae brasluniau yn datblygu i fod yn fodelau 3D llawn, neu sut mae ysbrydoliaeth dechnolegol yn datblygu i fod yn fanylion adeiladu.

Gan mai hon fydd yr arddangosfa gyntaf i’w chynnal wyneb yn wyneb ar ôl y pandemig, braint fydd eich croesawu i’n Harddangosfa ar ei newydd wedd yn Adeilad Bute yng Nghaerdydd ar 24 Mehefin. Cynhelir Gŵyl Ddigidol ar 20-23 Mehefin i gyd-fynd â’n harddangosfa wyneb yn wyneb.

Cofrestrwch yma i fynd i’r digwyddiad fydd yn agor yr arddangosfa ar 24 Mehefin | Cliciwch yma i gofrestru ar gyfer yr ŵyl ddigidol.

Gweld Sioe Myfyrwyr WSA 2022 ar Google Maps
The Welsh School of Architecture
Bute Building
Rhodfa'r Brenin Edward VII
Caerdydd
CF10 3NB

Rhannwch y digwyddiad hwn