Ewch i’r prif gynnwys

Ysgol Busnes Caerdydd – Sesiwn Hysbysu dros Frecwast – Cyllid soddgyfran i sbarduno datblygiad economaidd yng Nghymru

Dydd Mawrth, 14 Mehefin 2022
Calendar 08:30-09:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Audience

Cyllid soddgyfran i sbarduno datblygiad economaidd yng Nghymru

Sut gall buddsoddiad soddgyfran helpu ysgogi adferiad pandemig?

Er gwaethaf cefnlen pandemig Covid-19, bu 2020 yn flwyddyn ragorol o ran buddsoddi yng Nghymru yn ôl ymchwil newydd gan Beauhurt, gyda £129 miliwn o soddgyfran wedi’i fuddsoddi mewn busnesau newydd a rhai sy’n tyfu, a bron i 20,000 o gwmnïau newydd, ond beth yw’r argoel ar gyfer 2022 a thu hwnt? Beth yw’r heriau a’r cyfleodd allweddol ar gyfer buddsoddi mewn soddgyfran, a pha rôl y gall ei chwarae i yrru adferiad pandemig yng Nghymru?

Mae ein Sesiwn Hysbysu dros Frecwast nesaf yn cael ei gynnal ar ddydd Mawrth, Mehefin 14eg am 8.30yb, pan fydd Mike Owen, Cyfarwyddwr Buddsoddi, a Siân Price, Rheolwr Ymchwil a Phartneriaeth, o Fanc Datblygu Cymru yn ymuno a ni i drafod tirwedd bresennol BbaCh Cymru a rôl buddsoddiad soddgyfran wrth gefnogi busnesau Cymreig.

Bydd Mike a Siân yn rhoi trosolwg o’r Banc Datblygu, ei wasanaethau a sut mae’n cefnogi busnesau Cymreig. Byddant hefyd yn trafod y data a’r dadansoddiad diweddaraf gan Dirnad Economi Cymru, sef ymchwil ar y cyd rhwng Banc Datblygu Cymru, Ysgol Busnes Caerdydd, a’r Swyddfa Ystadegol Gwladol, yn edrych ar dirwedd bresennol BbaCh Cymru, materion busnes allweddol a’r cyflenwad a galw am gyllid, ynghyd a thystiolaeth arolwg ar effaith ymyriadau ariannol Covid-19 ar fusnesau Cymru.

Os hoffech chi ymuno â'n Cymuned Addysg Weithredol a derbyn gwahoddiadau ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol, Sesiynau dros Frecwast, gwybodaeth am gyrsiau, a'n cylchlythyrau misol, dilynwch y ddolen yma (rydyn ni'n hoffi dilyn y rheolau GDPR).

Gweld Ysgol Busnes Caerdydd – Sesiwn Hysbysu dros Frecwast – Cyllid soddgyfran i sbarduno datblygiad economaidd yng Nghymru ar Google Maps
3rd Floor, Executive Education Suite
Cardiff Business School Postgraduate Teaching Centre
Colum Road
Cathays
Caerdydd
CF10 3EU

Rhannwch y digwyddiad hwn


Digwyddiadau yn y gyfres hon

Executive Education