Three Minute Thesis (3MT®): ymuno â’r gynulleidfa
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr

P’un a ydych yn astudio ar gyfer gradd baglor, gradd meistr neu PhD neu’n awyddus i glywed sôn am rywfaint o ymchwil ddiddorol, mae bod yn rhan o’r gystadleuaeth Three Minute Thesis (3MT®) yn ffordd hwyl ac ysbrydoledig o dreulio prynhawn.
Yn y gystadleuaeth, bydd myfyrwyr doethurol ar draws y Brifysgol yn cael eu herio i gyflwyno eu hymchwil mewn tair munud yn unig, a hynny drwy ddefnyddio un sleid yn unig. Mae hyn yn golygu y byddwch yn clywed sôn am ystod amrywiol o brosiectau ymchwil, wedi’u crynhoi mewn tair munud bob tro. Wedi hynny, bydd panel o feirniaid yn penderfynu pwy fydd yn mynd ymlaen i’r rownd gynderfynol genedlaethol (a’r rownd derfynol, gyda lwc!). Gall y rhai yn y gynulleidfa hefyd bleidleisio dros eu hoff gystadleuydd, a fydd yn ennill ‘Gwobr y Bobl’.
Mae’r gystadleuaeth yn cynnig cipolwg unigryw ar fyd y PhD, yn ogystal â chyfle i weld amrywiaeth eang o ddulliau cyflwyno ar waith. Efallai y byddwch hefyd yn dysgu ambell i beth ar gyfer eich cyflwyniadau eich hun. Ar ôl y gystadleuaeth, cewch hefyd y cyfle i gymdeithasu â myfyrwyr eraill dros luniaeth.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y gystadleuaeth ar dudalennau gwe Vitae ar y gystadleuaeth.
Amserlen
13:00 - Croeso
13:15 - Cystadleuaeth
Enw | Teitl | |
---|---|---|
1 | Mandy Lau MEDIC | Newyddion trist am ganlyniadau microbiolegol mewn treialon clinigol. Beth allwn ni ei wneud nesaf? Fframwaith Estimand? |
2 | Bridget Handley SOCSI | Syrthio drwy’r bylchau? Cipolwg ar y ddarpariaeth lles ac iechyd meddwl ar gyfer plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yng Nghymru |
3 | Laurie Smith MEDIC | Hernia Endoriadol: Rhagfynegi ac atal risgiau |
4 | Charlotte Griffin PSYCH | Lles digidol: Sut y gall technoleg wella lles seicogymdeithasol |
5 | Gabriela Filipkowska MATHS | Y tu mewn i system Bitcoin |
6 | Sophie Chick MEDIC | Darganfod genynnau sy’n ymwneud â sgitsoffrenia |
7 | Emma Noble SOCSI | Sut mae Darlithwyr Addysg Bellach yng Nghymru yn ystyried eu rôl o ran Addysg Perthnasoedd a Rhyw? |
8 | Basma Alenezi MEDIC | Labelu radiocemegol ar gyfryngau biolegol i archwilio gwydnwch rhwystr ymennydd gwaed a phrosesau llidiol yn ystod Clefyd Alzheimer gyda PET/CT |
9 | Sarah Rollason BIOSI | Deall rôl cyd-heintio wrth reoli clefydau a heintiau |
10 | Fabian Morteo Flores CHEMY | Deunyddiau sy’n gatalyddion ar gyfer uwchraddio bio-olew |
11 | Shaima Aljahdali HCARE | Datblygiad a defnyddioldeb TRAK-Saudi; dull ar y we o hunan-reoli â chymorth poen pen-glin yn Sawdi Arabia |
12 | Laura Shobiye SOCSI | Pwy? Adnabod Mamau sy'n Ceisio Lloches |
13 | Mariana Sousa Leite | Tu Hwnt i Ffrwythlondeb: ymyriad seicogymdeithasol i gefnogi cleifion i ddod i dermau â thriniaeth ffrwythlondeb aflwyddiannus |
14:30 – Lluniaeth (tra bod beirniaid yn trafod)
14:50 – Gwobrwyo
15:00 – Diwedd
Doctoral Academy
Friary House
Caerdydd
CF10 3AE