Ewch i’r prif gynnwys

Canser y prostad – gwell diagnosis drwy ymchwil

Dydd Iau, 30 Mehefin 2022
Calendar 17:15-18:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Prostate Cancer research image

Canser y prostad yw’r canser mwyaf cyffredin mewn dynion, gyda thros 47,000 o ddynion yn cael diagnosis yn y DU bob blwyddyn. Mae’r siwrne i dderbyn diagnosis fodd bynnag, yn gymhleth ac yn ddibynnol ar fiopsi ymledol sy'n cario rhai risgiau.

Ymunwch â’r ymchwilwyr yr Athro Aled Clayton (BSc 1993, PhD 1997) a Dr Kieran Foley (MBBCh 2008, PhD 2018) i glywed sut mae ymchwil Prifysgol Caerdydd yn helpu ein dealltwriaeth, ac yn gwella diagnosis o’r clefyd hwn.

Bydd yr Athro Clayton yn disgrifio’i ymchwil i ddatblygu prawf gwaed i ragweld difrifoldeb diagnosis canser y brostad i unigolyn heb fod angen biopsïau. Bydd Dr Foley yn esbonio sut mae'n defnyddio un o'r sganwyr MRI mwyaf pwerus yn Ewrop, sydd wedi'i leoli yn y Brifysgol, er mwyn dysgu mwy am y microstrwythur meinwe mewn canser y prostad er mwyn helpu i wella cywirdeb diagnosis.

Rhannwch y digwyddiad hwn