Ewch i’r prif gynnwys

Atebolrwydd Corfforaethol ynghylch Amharu ar Hawliau Dynol a Llywodraethu Adnoddau Naturiol: Astudiaeth mewn Cyfraith Fyd-eang, Datblygiad a Chyfiawnder

Calendar Dydd Iau 12 Mai 2022, 13:00-Dydd Gwener 13 Mai 2022, 15:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Mae’r ymgyrch gyson i wneud y mwyaf o elw a chyfoeth ag sy’n bosibl yn esbonio pam fod corfforaethau yn cam-drin hawliau dynol, yn enwedig mewn gwledydd sy’n datblygu sydd â chyfreithiau a safonau llac ynghylch yr amgylchedd, treth a llafur. Mae'r ffenomen 'melltith adnoddau' yn adnabyddus i lawer o wledydd sy'n datblygu, yn enwedig y gwledydd lleiaf datblygedig sydd â chyfoeth o fwynau, ynni ac adnoddau naturiol eraill ble mae llawer o grwpiau echdynnol rhyngwladol yn gweithredu. Ar yr un pryd, mae yna gorff datblygedig o normau hawliau dynol rhyngwladol a rhanbarthol sy’n cydnabod yr hawl dynol i amgylchedd ‘glân’ neu ‘iach’, yn ogystal â hawliau economaidd, diwylliannol a chymdeithasol i bawb, gan gynnwys yr hawl i bawb gael gwared ar eu cyfoeth naturiol, adnoddau a hawliau’r bobl frodorol i dir. Mae’r ymelwad anghyfreithlon o adnoddau naturiol yn bryderus mewn llawer o wledydd, yn ogystal â chipio tir ar raddfa fawr, ac mae hyn wedi ei gofnodi’n eang yn achos polisi llywodraeth Cambodia o ddadfeddiannu dan orfod ac ailddyrannu tir o ddechrau’r 2000au, gyda chydweithrediad gan gorfforaethau rhyngwladol pwerus.  
Bydd y gynhadledd ddeuddydd hon yn anelu at archwilio'n feirniadol y rôl a chwaraeir gan sefydliadau rhyngwladol, rhanbarthol a chenedlaethol mewn corfforaethau cynhaliol (yn enwedig corfforaethau rhyngwladol) sy’n gyfrifol o fynd yn erbyn hawliau dynol o ystyried y rheidrwydd o gyfiawnder cymdeithasol ac ecolegol, a thegwch rhwng cenedlaethau. Bydd y trafodaethau yn cael eu cynnal yng nghyd-destun astudiaethau achos mewn llywodraethu adnoddau naturiol o fewn gwledydd a rhanbarthau dethol, yn enwedig Affrica, Asia ac America Ladin. Bydd y gynhadledd hefyd yn anelu at gynnig fframwaith cyfreithiol byd-eang ar gyfer yr atebolrwydd a’r gweithrediad o’r gyfraith yn erbyn grwpiau corfforaethol a’u cyfarwyddwyr, gweithwyr, rheolwyr a’u cyfran-dalwyr sy’n gyfrifol am gam-drin hawliau dynol, gan ystyried y mentrau a safonau hawliau dynol presennol megis Canllawiau’r OECD ar Fentrau Rhyngwladol, Egwyddorion Arweiniol y Cenhedloedd Unedig ar Fusnes a Hawliau Dynol, gwaith cyn Gynrychiolydd Arbennig y Cenhedloedd Unedig ar Fusnes a Hawliau Dynol, John Ruggie a Chytundeb Drafft Busnes a Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig.
Trefnir y gynhadledd gan Brifysgol Caerdydd, y Ganolfan Hawliau Dynol a Chyfraith Gyhoeddus, ac fe’i noddir yn rhannol gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru.

Rhannwch y digwyddiad hwn