Darlithoedd Canolfan Wolfson - Bod yn agored i straen, dysgu atgyfnerthu ac iselder
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr

'Bod yn agored i straen, atgyfnerthu dysgu ac iselder'
Yr Athro Glyn Lewis, Athro Seiciatreg Epidemiolegol yng Ngholeg Prifysgol Llundain
Cysylltir straen amgylcheddol yn gynnar mewn bywyd ac yn ddiweddarach â salwch iselder a gallai'r berthynas hon fod yn achosol.
Er hynny, mae ymateb i straen yn amrywio'n fawr a gallai deall mwy am sut mae'r perygl hwn (y gwrthwyneb i wydnwch) yn amrywio ein helpu i ddatblygu ymyriadau newydd ar gyfer atal.
Bydd yr Athro Lewis yn dadlau o blaid rhagdybiaeth y gallai mecanweithiau'r ymennydd sy'n sail i ddysgu atgyfnerthu mewn anifeiliaid a phobl roi esboniad am fod yn agored i niwed a sut y gall digwyddiadau cynnar mewn bywyd barhau i gael effaith ar iechyd meddwl flynyddoedd lawer yn ddiweddarach.