Ewch i’r prif gynnwys

Ymyriadau polisi i gefnogi cyfranogiad mewn addysg ôl-orfodol

Dydd Iau, 5 Mai 2022
Calendar 14:15-16:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Students sitting in a lecture theatre

Nod y digwyddiad hwn yw dwyn ynghyd ac adeiladu ar ganfyddiadau adroddiadau amrywiol WCPP. Bydd yn trin a thrafod sut y gall Llywodraeth Cymru gynyddu cyfraddau cyfranogi, cadw a chyflawni mewn addysg a hyfforddiant ôl-orfodol, gan ganolbwyntio ar y grŵp oedran 16-19, a sut y gellir defnyddio'r newidiadau deddfwriaethol a ddaw yn sgîl y Bil Ymchwil ac Addysg Drydyddol (TER) i gefnogi hyn.

Bydd y digwyddiad yn dwyn ynghyd arbenigwyr a llunwyr polisïau sy'n gweithio ar amrywiaeth o faterion sy'n ymwneud ag addysg a hyfforddiant ôl-16 yng Nghymru a Lloegr.

Bydd yn rhoi cyfle i rannu gwybodaeth a phrofiad, trafod y sylfaen dystiolaeth gyfredol, a deall beth fyddai cymysgedd polisi priodol i annog ymgysylltiad parhaus â dysgu ac i leihau gadael yn gynnar, yn enwedig i grwpiau sy'n ymgysylltu leiaf â dysgu neu hyfforddiant.

Bydd y siaradwyr yn cynnwys Dan Bristow (WCPP), yr Athro Sue Maguire (IPR), Dr Matt Dickson (IPR), Dr Sue Pember CBE (Holex), Huw Morris (Llywodraeth Cymru) ac Olly Newton (Edge Foundation).

(Gallwn ddarparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gyfer y sesiwn holi ac ateb os oes digon o alw.)

Gweld Ymyriadau polisi i gefnogi cyfranogiad mewn addysg ôl-orfodol ar Google Maps
0.47
sbarc|spark
Heol Maendy
Cathays
Caerdydd
CF24 4HQ

Rhannwch y digwyddiad hwn