Ewch i’r prif gynnwys

Ysgol Busnes Caerdydd – Gweithdy Mewnwelediadau Ymddygiadol

Dydd Iau, 28 Ebrill 2022
Calendar 13:30-16:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

consumer experiences sad to happy faces

Amcan

Fel gweithiwr busnes proffesiynol, ydych chi erioed wedi meddwl sut i wella penderfyniadau eich defnyddwyr? Fel cynrychiolydd y llywodraeth, ydych chi erioed wedi meddwl sut i gynyddu cydymffurfiad treth, neu argyhoeddi unigolion i ymddwyn yn fwy o blaid yr amgylchfyd? Fel rheolwr elusen, ydych chi erioed wedi meddwl sut i ysgogi unigolion i roi mwy o arian?

Os ydych chi erioed wedi pendroni dros cwestiynau tebyg yn eich gwaith bob dydd, dyma’r gweithdy ar eich cyfer chi.

Dros y degawd diwethaf, mae nifer cynyddol o fusnesau a llywodraethau wedi cymhwyso mewnwelediadau ymddygiadol – canfyddiadau o economeg, seicoleg a niwrowyddoniaeth sy’n esbonio sut mai bodau dynol yn ymddwyn - yn llwyddiannus, i ddylanwadu ar benderfyniadau eu rhanddeiliaid.

Siaradwr

Mae Dr Armenak Antinyan yn ddarlithydd Economeg yn Ysgol Busnes Caerdydd. O bryd i’w gilydd, mae’n cyd-weithio gyda sefydliadau’r llywodraeth, a sefydliadau datblygu rhyngwladol, i ddatrys heriau polisi mewn gwahanol wledydd. Enillodd Dr Antinyan ei Ph.D mewn Economeg Ymddygiadol ac Arbrofol ym Mhrifysgol Venice. Mae wedi cyhoeddi mewn cyfnodolion a adolygir gan gymheiriaid fel Social Science and Medicine, European Economic Review, Journal of Economic Behavior and Organization, Social Indicators Research, Journal of Behavioral and Experimental Economics, and the Review of Development Economics.

Os hoffech chi ymuno â'n Cymuned Addysg Weithredol a derbyn gwahoddiadau ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol, Sesiynau dros Frecwast, gwybodaeth am gyrsiau, a'n cylchlythyrau misol, dilynwch y ddolen yma (rydyn ni'n hoffi dilyn y rheolau GDPR).

Rhannwch y digwyddiad hwn


Digwyddiadau yn y gyfres hon

Executive Education