Ewch i’r prif gynnwys

Herio Safbwyntiau ar Etholiadau Arlywyddol Ffrainc

Dydd Mercher, 4 Mai 2022
Calendar 13:00-14:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Girl walking in street with phone in her hand

Digwyddiad bwrdd crwn ar-lein a gynhelir fel rhan o thema ymchwil Astudiaethau Ardal sy'n seiliedig ar Iaith Fyd-eang yn Ysgol Ieithoedd Modern Caerdydd. Mae'r siaradwyr yn cynnwys yr Athro Alistair Cole (Prifysgol y Bedyddwyr Hong), Dr Emilie Tran (Prifysgol Bedyddwyr Hong Kong) a Dr Nicholas Startin (Prifysgol Caerfaddon).

Yn gyntaf, bydd cyfraniad yn cael ei wneud gan yr Athro Alistair Cole (Prifysgol Bedyddwyr Hong Kong) a fydd yn canolbwyntio ar y rhesymau sy'n esbonio'r ffaith bod Emmanuel Macron yn debygol o gael ei ail-ethol am ail dymor.

Yn ail, bydd Dr Emilie Tran (Prifysgol Bedyddwyr Hong Kong) yn trafod pwysigrwydd y ras arlywyddol i Ffrancwyr sy'n byw dramor.

Yn olaf, bydd cyflwyniad gan Dr Nicholas Startin (Prifysgol Caerfaddon) yn canolbwyntio ar ganologrwydd y dimensiwn Ewropeaidd yn etholiad Arlywyddol Ffrainc 2022.


Siaradwr 1:  Yr Athro Alistair Cole (Prifysgol y Bedyddwyr Hong Kong)

Etholiad Arlywyddol Ffrainc 2022: en attendant Macron?

Crynodeb
Mae etholiadau arlywyddol Ffrainc yn ornestau allweddol yng ngêm ddemocrataidd y wlad. Mae ymgyrch 2022 yn datgelu paradocs ymddangosiadol: yn ystod cyfnod o argyfwng parhaus, gydag arlywydd 'aflonyddgar' yn arwain Ffrainc, anaml y gwelwyd etholiad arlywyddol mor ddigynnwrf gyda chanlyniad mor rhagweladwy. Dyna'r rheswm am deitl yr ohebiaeth hon: en attendant Macron.

Mae cyfnod Macron yn datgelu sawl enigma. Etholwyd Macron yn Arlywydd yn 2017 ar sail dynameg gyferbyniol, a allai fod yn anghyson (cydbwysedd ên même temps, symleiddio brwydrau gwleidyddol yn Fanicheaidd i fod yn 'flaengarwyr yn erbyn cenedlaetholwyr'). Gellid dehongli ei lwyddiant yn ffafriol fel entrepreneur gwleidyddol y mae ei ffawd yn cyd-fynd yn agos ag ymwrthod â’r system bleidiol bresennol, gan ei datgymalu a'i hailffurfio. Dehongliad llai ffafriol fyddai ei fod yn dwyllwr gwleidyddol, a aeth ati'n fwriadol i danseilio'r system a'i cludodd i rym. Fel dyfarniad cryno, er bod menter Macron wedi'i choroni'n llwyddiant mewn termau gwleidyddol (drwy wanhau gwrthwynebwyr gwleidyddol yn raddol a phroses barhaol o driongli), mae'r record gymdeithasol, economaidd a rhyngwladol yn amheus. 

Fe'i hetholwyd i'w swydd gan addo 'chwyldro' neu o leiaf ddiwygiad. Mae Macron wedi gorfod wynebu un argyfwng ar ôl y llall.  Yn debyg i gyfnod Macron yn ei gyflawnder, (prin y) brwydrwyd ymgyrch 2022 dan fygythiad argyfwng. Yn wir roedd argyfwng fel dull o reoli - cymdeithasol, iechyd, rhyngwladol - yn un o ddatblygiadau mwy rhyfeddol arlywyddiaeth Macron. O'i osod yn erbyn y cefndir cyffredinol hwn, mae'r cyfraniad yn canolbwyntio ar y rhesymau sy'n esbonio pam fod Emmanuel Macron yn debygol o gael ei ailethol am ail dymor.

Bywgraffiad
Alistair Cole yw Athro a Phennaeth yr Adran Llywodraeth ac Astudiaethau Rhyngwladol ym Mhrifysgol y Bedyddwyr Hong Kong. Yn ystod ei gyfnod hir ym Mhrifysgol Caerdydd (1999-2019), yr Athro Cole oedd un o gyd-greawdwyr yr Uned Ymchwil i Lywodraethiant, Hunaniaeth a Pholisi Cyhoeddus yn Ewrop o fewn yr Ysgol Astudiaethau Ewropeaidd.  Mae'r myfyrio yn y sgwrs hon yn datblygu ei syniadau yn y gyfrol Emmanuel Macron and the Two Years that changed France (Manchester University Press, 2019).


Siaradwr 2:  Dr Emilie Tran (Prifysgol Bedyddwyr Hong Kong)

Dylanwad gwleidyddol Ffrancwyr sy’n byw dramor

Crynodeb
Mae nifer y Ffrancwyr sy’n byw dramor (Français de l’étranger) wedi cynyddu dros y 20 mlynedd diwethaf. Mae’r gymuned hon o dair miliwn o bobl, sy'n cyfateb i dri Marseille, yn cael sylw oherwydd ei chyfraniad at ddylanwad economaidd, ieithyddol a diwylliannol Ffrainc ar y byd. Mae gan y gymuned hon hefyd lawer o ddylanwad gwleidyddol, ac mae’r ymgeiswyr yn yr etholiad arlywyddol sydd ar ddod yn ymwybodol iawn o hynny. Yn gynnar ym mis Ionawr, anfonodd Eric Zemmour neges fideo tri munud o hyd i Ffrancwyr sy’n byw dramor. Gwnaeth Valérie Pécresse gynnal cynhadledd fideo awr o hyd gyda mil o Ffrancwyr ar draws y byd, tra bod Emmanuel Macron wedi anfon e-lythyrau atynt. Fel mater o ffaith, gwnaeth y mwyafrif llethol o’r Ffrancwyr sy’n byw dramor bleidleisio dros Macron yn 2017 – mwy na 40% yn y rownd gyntaf, ymhell o flaen François Fillon, a 93% yn yr ail rownd yn erbyn Marine Le Pen.

Yn 2002, dim ond 385,000 o bleidleiswyr cofrestredig a oedd yn byw dramor. Yn 2017, roedd 1.268 miliwn yn byw dramor. Erbyn hyn, mae 1.614 miliwn yn gwneud hynny. Mewn etholiad agos, gall pleidleisiau'r Ffrancwyr sy’n byw dramor wneud y gwahaniaeth! Mae 40% o’r pleidleiswyr yn byw yn y pum dinas neu ranbarth lle ceir y nifer fwyaf o breswylwyr o Ffrainc. Y mwyaf yw Genefa, lle mae 153,400 o Ffrancwyr yn byw. Mae’n cyfateb i ddinas fawr yn Ffrainc. Bydd Dr Emilie Tran, sydd wedi’u hethol i gynrychioli Ffrancwyr sy’n byw dramor (Conseillère des Français de l'étranger), yn trafod pwysigrwydd y ras arlywyddol iddynt.

Bywgraffiad
Mae Dr Emilie Tran yn wladolyn o Ffrainc o dras Tsieineaidd. Yn ogystal â bod yn Athro Cynorthwyol, hi hefyd yw Cyfarwyddwr y cwrs Astudiaethau Ewropeaidd ym Mhrifysgol Bedyddwyr Hong Kong. Mae'n ymchwilio i berthynas Tsieina ag Ewrop, y Dwyrain Canol a Gogledd Affrica, Twitter a Diplomyddiaeth Iechyd a'r Tsieineaid sy’n byw dramor. Hi yw awdur y bennod ‘The Yellow Vest Movement: Causes, Consequences and Significance’ yn y llyfr ‘Developments in French Politics 6’ (Palgrave Macmillan, 2021) gan H. Drake, A. Cole, S. Meunier a V. Tiberj. Cafodd ei hethol i gynrychioli Ffrancwyr sy’n byw dramor (Conseillère des Français de l'étranger) rhwng 2018 a 2025. Yn 2020, cafodd wobr genedlaethol y mae Gweriniaeth Ffrainc yn ei rhoi i athrawon ac academyddion arbennig am eu gwasanaeth gwerthfawr i brifysgolion, addysg a gwyddoniaeth – daeth yn Chevalier de l’Ordre des Palmes académiques am ei gwaith gwerthfawr ac effeithiol i sicrhau cydweithio rhwng sefydliadau academaidd yn Ffrainc a Hong Kong. Yn 2021, cafodd Wobr y Llywydd am Berfformiad Addysgu Eithriadol.


Siaradwr 3:  Dr Nicholas Startin (Prifysgol Caerfaddon)

Gweledigaeth ar gyfer Ewrop neu weledigaeth ar gyfer Ffrainc? Yr UE fel mater yn etholiadau Arlywyddol Ffrainc 2022

Crynodeb
Mae'r cyflwyniad yn canolbwyntio ar ganologrwydd y dimensiwn Ewropeaidd yn etholiad Arlywyddol Ffrainc 2022. Mae'n dechrau trwy archwilio sut y cafodd yr UE, fel mater ac endid, ei fframio gan y prif ymgeiswyr yn ystod yr ymgyrch. Mae'n canolbwyntio, i ddechrau, ar Emmanuel Macron a'i 'weledigaeth Ewropeaidd' gan dynnu ar gyd-destun Llywyddiaeth Ffrainc yr UE o fis Ionawr 2022 ymlaen. Yna mae'r cyflwyniad yn archwilio'r gwahaniaethau mawr yn yr ymgyrch, o ran polisi a rhethreg ar 'Ewrop', rhwng Macron a'i brif gystadleuwyr (Marine Le Pen, Valérie Pécresse, Jean-Luc Mélenchon ac Eric Zemmour).  Mae'r dadansoddiad hefyd yn cynnwys trafodaeth ar sut y daeth COVID19 a'r Rhyfel yn Wcráin yn rhan o drafodaeth ehangach am 'Ewrop' a'i dyfodol. Mae'r cyflwyniad hefyd yn archwilio amlygrwydd y cwestiwn Ewropeaidd o ran ei effaith ar bleidleiswyr Ffrainc yn ystod rownd gyntaf ac ail rownd yr ymgyrch. Mae'n dod i ben gyda dadansoddiad o arwyddocâd posibl y canlyniad ar gyfer partneriaid Ffrainc yn yr UE, ac ar gyfer yr UE yn ei chyfanrwydd, dros y tymor Arlywyddol pum mlynedd.

Bywgraffiad
Mae Dr Nick Startin yn un o Uwch Gymrodyr dibreswyl y Sefydliad Llywodraethu Byd-eang ym Mrwsel. Dr Startin oedd cyn-Gadeirydd y Gymdeithas Prifysgolion ar gyfer Astudiaethau Ewropeaidd Cyfoes a chyn-Bennaeth Gwleidyddiaeth, Ieithoedd ac Astudiaethau Rhyngwladol ym Mhrifysgol Caerfaddon, lle mae ganddo statws anrhydeddus. Mae’n dechrau swydd addysgu newydd ym Mhrifysgol John Cabot yn Rhufain ym mis Medi. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar Ewrosgeptigiaeth a’r dde radical yn Ewrop, gan gynnwys y Rali Genedlaethol yn Ffrainc. Mae Nick yn cyfrannu’n rheolaidd at y BBC a France24.

Trefn y Digwyddiad & recordio
Bydd  y digwyddiad yn cael ei gynnal ar-lein fel gweminar Zoom a byddwn yn recordio’r gweminar er mwyn ei gyhoeddi ar ôl y digwyddiad.

Cyfieithu ar y pryd
Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â mlang-events@caerdydd.ac.uk erbyn dydd Mercher 20 Ebrill i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd. Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.

Cofrestru
Mae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn hollol yn Gymraeg. Yn anffodus nid yw'r platfform yr ydym yn ei ddefnyddio'n cynnig y gwasanaeth hwn.

Hysbysiad Diogelu Data
Pan fyddwch yn cofrestru, cedwir eich data yn unol â’n Hysbysiad Diogelu Data. Byddwn yn prosesu’r data personol a ddarparwyd gennych yn unol â rheoliadau diogelu data.

Rhannwch y digwyddiad hwn