Ewch i’r prif gynnwys

Archwilio cyfleoedd i ffermwyr yng Nghymru gynhyrchu bwyd ar gyfer marchnadoedd y dyfodol

Dydd Mercher, 27 Ebrill 2022
Calendar 10:30-12:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Photo: Daniel Seßler, Unsplash

Archwilio cyfleoedd i ffermwyr yng Nghymru gynhyrchu bwyd ar gyfer marchnadoedd y dyfodol 

Fe'ch gwahoddir i ymuno â ni ar gyfer cyflwyniad ar ganfyddiadau'r prosiect hwn, gan gynnwys trafodaeth arnynt. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd wedi bod yn ystyried beth fyddai'n ei olygu i ffermwyr yng Nghymru gynhyrchu mwy o fwyd sy’n dod o blanhigion. Mae dietau sy’n newid a phwysau i leihau effeithiau da byw yn creu heriau i lawer o ffermwyr Cymru, ond mae'r newidiadau hyn hefyd yn creu cyfleoedd. Pwy allai gynhyrchu grawnfwydydd, codlysiau, ffrwythau, llysiau neu gnau? Sut mae pontio i'r marchnadoedd hyn? 

Roedd yr ymchwil hon yn archwilio pryderon a diddordebau ffermwyr o ran cyfleoedd i amrywio beth maent yn ei gynhyrchu mewn ymateb i’r galw am ragor o fwyd o blanhigion sydd wedi’i gynhyrchu yn y DU. Bydd y seminar yn gyfle i gael gwybod am y canfyddiadau a chlywed safbwyntiau ffermwyr ac eraill sy'n rhan o'r prosiect.  

Cynhelir y seminar drwy Zoom ar 27 Ebrill rhwng 10.30am a 12pm. 

Cofrestrwch yma

Yn Saesneg y cynhelir y digwyddiad hwn. 

Cefnogir yr ymchwil hon gan yr Academi Brydeinig/Grant Ymchwil Bach Leverhulme 

Rhannwch y digwyddiad hwn