Ewch i’r prif gynnwys

(Ail)feddwl y Falklands (1982-2022): Gweledigaethau ac Adnodau yn Niwylliannau’r Ariannin a Phrydain

Calendar Dydd Mercher 6 Ebrill 2022, 13:00-Dydd Gwener 8 Ebrill 2022, 19:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Arbedwch i'ch calendr

Cynhadledd rithwir ryngwladol a gynhelir ar y cyd rhwng yr Ysgol Ieithoedd Modern (Prifysgol Caerdydd) a'r Instituto de Investigaciones Gino Germani (Universidad de Buenos Aires).

Ynglŷn â'r gynhadledd
Pedwar degawd ar ôl Rhyfel y Falklands rhwng yr Ariannin a Phrydain Fawr ym 1982, mae ffeithiau hanesyddol y gwrthdaro a'i ganlyniadau gwleidyddol uniongyrchol, wedi'u sefydlu i raddau helaeth. Tra yn y DU, mae'r rhyfel yn Ne'r Iwerydd bron yn angof, yn yr Ariannin mae diwylliant cof o amgylch y Malvinas mor fyw ag erioed. Yn dilyn cyfnod o amnesia ar y cyd yn y degawdau yn union ar ôl colli i’r Tasglu Prydeinig, y cyfeirir ato yn yr Ariannin fel y broses o desmalvinización, dros y pymtheg i ugain mlynedd diwethaf mae nifer o fentrau wedi dod â'r gwrthdaro arfog a'r hawliad tiriogaethol cysylltiedig yn ôl i sylw'r cyhoedd ehangach (remalvinización).

Mae mwyafrif cynyddol o Archentwyr a Phrydeinwyr yn rhy ifanc i fod wedi ymladd yn Rhyfel y Falklands neu hyd yn oed ag atgof uniongyrchol ohono. Wrth i’r dasg o gadw’r cof am y gwrthdaro symud yn fyw tuag at yr “ôl-genhedlaeth” (Hirsch), cyfyd cwestiynau ehangach ynglŷn â throsglwyddo gwybodaeth a phrofiad, boed yn drawmatig neu fel arall. Mae'r persbectif hanesyddol sy'n dod i'r amlwg hefyd yn gyfle i fyfyrio ar bedwar degawd o ymarfer cof.

Ar y pwynt hwn, felly, mae'n bryd ail-werthuso etifeddiaeth ddiwylliannol y gwrthdaro, y tu hwnt i'r adroddiadau a gynigir gan hanes gwleidyddol a milwrol. Beth allwn ni ei weld heddiw na allem ni ei weld 10, 20, 30 mlynedd yn ôl? Beth mae agweddau mwy diweddar at y rhyfel yn ei gynnig na wnaeth neu na allai rhai cynharach ei gynnig? Sut mae canfyddiadau a chynrychioliadau o'r gwrthdaro wedi newid dros amser? Pa ddarlleniadau o’r rhyfel sydd wedi bodoli a pha safbwyntiau amgen, os o gwbl, sydd wedi’u gwthio i’r cyrion neu eu dileu’n gyfan gwbl o “gof diwylliannol” (Assmann)? Pa rôl mae diwylliant poblogaidd, y Rhyngrwyd a chyfryngau cymdeithasol yn ei chwarae wrth gofio'r gwrthdaro? Dyma rai o'r cwestiynau y bydd y gynhadledd yn eu harchwilio.

Rhaglen
Mae rhaglen lawn y gynhadledd (“completo”) yn cynnwys amserlen, crynodebau a brasluniau bywgraffyddol o’r cyfranwyr.
Mae yna hefyd fersiwn byr (“breve”) sy'n rhoi trosolwg tabl o'r tri diwrnod heb fanylion.

Trefn y Digwyddiad & recordio
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal arlein fel gweminar Zoom a byddwn yn recordio’r gweminar er mwyn ei gyhoeddi ar ôl y digwyddiad.

Cofrestru
Sylwch mai'r dyddiad cau ar gyfer cofrestru yw 14:00 (BST) ddydd Mawrth 5 Ebrill 2022.
Mae presenoldeb yn rhad ac am ddim. I dderbyn copi o’r rhaglen lawn a’r ddolenni i’r Weminar Zoom, cofrestrwch drwy glicio ar y botwm ‘Cofrestrwch’ ar ochr chwith y dudalen hon a chwblhau’r ffurflen ar-lein.

Hysbysiad Diogelu Data
Pan fyddwch yn cofrestru, cedwir eich data yn unol â’n Hysbysiad Diogelu Data. Byddwn yn prosesu’r data personol a ddarparwyd gennych yn unol â rheoliadau diogelu data.

Rhannwch y digwyddiad hwn