Yr Athro Parveen Yaqoob, Prifysgol Reading, "Yr un sydd â’r enw sy’n swnio fel petai’n dod o dramor."
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr

Cyfres Trafod Gwrth-hiliaeth
Yr Athro Parveen Yaqoob
Athro Ffisioleg Maeth, Dirprwy Is-Ganghellor a Rhag Is-Ganghellor (Ymchwil ac Arloesedd), Prifysgol Reading; Cadeirydd Pwyllgor Llywodraethu Athena Swan
"Yr un sydd â’r enw sy’n swnio fel petai’n dod o dramor."
Yn y cyflwyniad hwn, bydd yr Athro Yaqoob yn gwneud y canlynol:
- Rhannu rhwyfaint o'i phrofiad personol o hiliaeth, yn Bacistani Prydeinig ail-genhedlaeth a gafodd ei magu yn ne Llundain yn y 70au a'r 80au, yn fyfyrwraig prifysgol yn Rhydychen, ac yn ystod ei gyrfa yn academydd ac yn arweinydd ar brifysgol.
- Ystyried a yw prifysgolion yn y DU yn hiliol ar lefel sefydliadol.
- Egluro pam roedd angen Adolygiad Cydraddoldeb Hiliol ym Mhrifysgol Reading a'r hyn y mae'n anelu at ei gyflawni.
- Nodi tri cham allweddol i wneud eich sefydliad yn un gwrth-hiliol.
Aelodau'r Panel: Yr Athro Dipak Ramji (Cadeirydd), yr Athro Jim Murray, yr Athro Daniela Riccardi a Dr Numair Masud.