Ewch i’r prif gynnwys

Epidemigau, Cynllunio A'r Ddinas Symposiwm

Dydd Gwener, 22 Ebrill 2022
Calendar 13:15-16:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Map showing the distribution of cholera in London June-July 1866 (Credit Wellcome Collection)

Digwyddiad ar y cyd rhwng Planning Perspectives a'r Gymdeithas Hanes Cynllunio Rhyngwladol a gynhelir gan Ysgol Pensaernïaeth Cymru, Prifysgol Caerdydd.

Gwybodaeth am y digwyddiad

Mae'r symposiwm wedi tyfu o ddatblygu rhifyn arbennig o Planning Perspectives (rhifyn 37.1), o'r enw ‘Epidemics, Planning and the City’, gyda'r golygydd gwadd Juliet Davis a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2022. Fe'i cychwynnwyd ar ddechrau pandemig byd-eang Covid-19 ym mis Mawrth 2020, adeg o ddyfalu ynghylch sut y byddai angen i ddinasoedd addasu er mwyn lliniaru risgiau'r clefyd hynod drosglwyddadwy hwn, a gludir yn yr awyr i raddau helaeth. Nod y rhifyn arbennig oedd casglu ymchwil hanesyddol ar sut mae dinasoedd a chynllunwyr wedi ymdrin ag epidemigau / pandemigau yn y gorffennol, gan gynnwys sut y lluniwyd her clefydau heintus a datblygu gweledigaethau, prosesau a strategaethau i'w dal, eu hynysu a'u trin. Mae'r papurau sy'n codi yn arddangos llawer o wahanol adegau, lleoedd a chyd-destunau diwylliannol, a hefyd amrywiaeth o wahanol epidemigau y mae dinasoedd drwy hanes nid yn unig wedi gorfod addasu iddynt ond hefyd wedi newid yn eu sgil.

Dolen i'r rhifyn arbennig

Amserlen:

Dechrau - 13:15 BST (GMT+1)

13:15 - Juliet Davis: Cyflwyniad a throsolwg

13:35 - Julie Collins, Peter Lekkas:  Crwsâd darfodedigaeth: dylanwad tiwberciwlosis ar ymddangosiad cynllunio trefol yn Ne Awstralia, 1890–1918

13:55 - Jacopo Galli - Hypocondria fel ffactor ffurf. Rôl pryderon trefedigaethol wrth ffurfio adeiladau a mannau trefol yn Affrica Brydeinig 

14:15 - Samantha Martin - Y ddinas bathogenaidd: clefyd, baw a chynllunio Marchnadoedd Cyfanwerthu Ffrwyth a Llysiau Dulyn

14:35 – egwyl o 5 munud

14:40 - Antonio Carbone - Epidemigau, ystyriaeth rheoli a’r grid: safbwynt y bedwaredd ganrif ar bymtheg o Buenos Aires

15:00 - Mrunmayee Satam -  Pandemig y ffliw a datblygu seilwaith iechyd cyhoeddus yn ninas Bombay, 1919–1935

15:20 - Noel Manzano - Glendid arallrwydd: epidemigau, trefoli anffurfiol a dirywiad trefol ddechrau’r ugeinfed ganrif ym Madrid

15:40 - Giorgio Talocci, Donald Brown, Haim Yacobi -  Biogeowleidyddiaeth dinasoedd: ymholiad beirniadol ar draws Jerwsalem, Phnom Penh, Toronto

16:00 - Trafodaeth ar themâu cyffredin a gorgyffwrdd yn y papurau

Diwedd -16:30

Y cyfranwyr:

Mae Dr Donald Brown yn Ddarlithydd mewn Cynllunio Amgylcheddol Trefol yn Uned Gynllunio Datblygu Bartlett, Coleg Prifysgol Llundain

Mae Dr Antonio Carbone  yn ymchwilydd ôl-ddoethurol mewn Hanes Modern yn yr Athrofa Hanesyddol Almaenig yn Rhufain.

Mae Dr Julie Collins yn Gymrawd Ymchwil a Churadur yn yr Amgueddfa Pensaernïaeth ym Mhrifysgol De Awstralia.

Mae'r Athro Juliet Davis yn Athro Pensaernïaeth a Threfolaeth, Pennaeth Ysgol Pensaernïaeth Cymru, yn aelod o Gyngor y Gymdeithas Hanes Cynllunio Rhyngwladol ac yn aelod o Fwrdd Golygyddol Planning Perspectives.

Mae Dr Jacopo Galli yn Gydymaith Ymchwil yn y Fondazione Eni Enrico Mattei (FEEM).

Mae Dr Peter Lekkas yn epidemiolegydd cymdeithasol yn gweithio yn y Ganolfan Ymchwil ar Amgylchedd, Cymdeithas ac Iechyd (CRESH) ym Mhrifysgol Caeredin fel cymrawd ymchwil ôl-ddoethurol.

Mae Dr Noel Manzano yn bensaer (UVA) a chymdeithasegydd (Paris 8), gyda PhD mewn hanes trefol o Universidad de Valladolid a Phrifysgol Bauhaus Weimar

Mae Dr Samantha Martin yn Athro Cyswllt mewn Pensaernïaeth yng Ngholeg y Brifysgol Dulyn

Mae Dr Nida Rehman yn Athro Cyswllt Lucian a Rita Caste yn yr Ysgol Pensaernïaeth, Prifysgol Carnegie Mellon.

Mae Dr Mrunmayee Satam yn Athro Hanes Cynorthwyol ym Mhrifysgol Amity, Mumbai

Mae Dr Giorgio Talocci yn Ddarlithydd yn Uned Gynllunio Datblygu Bartlett, Coleg Prifysgol Llundain

Mae'r Athro Haim Yacobi yn Athro Cynllunio Datblygu yn Uned Gynllunio Datblygu Bartlett, Coleg Prifysgol Llundain

Rhannwch y digwyddiad hwn