Ewch i’r prif gynnwys

Picking Your Battles: Exhibiting the Falklands/Malvinas War in Military Museums

Dydd Iau, 7 Ebrill 2022
Calendar 15:00-16:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Head and shoulders image of Dr Peter Johnston (Royal Air Force Museum London)

Gweminar gyda'r siaradwr gwadd Dr Peter Johnston (Amgueddfa'r Llu Awyr Brenhinol) sy'n cael ei redeg gan thema ymchwil Hanes a Threftadaeth yn yr Ysgol Ieithoedd Modern. Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o’r gynhadledd rithwir ryngwladol ar achlysur 40 mlynedd ers Rhyfel y Malvinas/Y Falklands ‘(Ail)feddwl y Falklands: Visions and Versions in Archentian and British Cultures’.

Crynodeb
Mae digwyddiadau 1982 yn parhau i fwrw cysgod hir, ac er bod cydnabyddiaeth gyhoeddus yn amrywio, un man lle mae'r gwrthdaro yn parhau yw yn amgueddfeydd milwrol y DU. Mae amgueddfeydd yn gorwedd yn y man rhwng mythau, gwirioneddau a chymhlethdodau - ond rhaid iddynt ymgysylltu â'r tri er mwyn gallu dadansoddi a thrafod rhyfel a gwrthdaro'n effeithiol. Bydd y papur hwn yn datgelu sut mae amgueddfeydd milwrol wedi cyflwyno Rhyfel y Falklands, a sut mae cynulleidfaoedd wedi ymateb. Ond mae parhau i arddangos y gwrthdaro'n codi llawer o heriau i amgueddfeydd milwrol. Ceir heriau o ran gofod, adnoddau a pherthnasedd. Ceir problemau hefyd i amgueddfeydd o ran cynulleidfaoedd, a natur yr arddangosion eu hunain. Er mis Mehefin 1982 cafwyd tensiynau a dadleuon yn hanes y rhyfel, a does dim golwg bod y rhain yn lleihau. Mae'r heriau hyn i naratif y DU yn ymestyn i arddangosfeydd amgueddfa, a chaiff y tensiwn hwn ei archwilio. A hithau'n 40 mlynedd yn 2022 ers y gwrthdaro, bydd y sgwrs hon yn dadansoddi sut y caiff hyn ei nodi mewn amgueddfeydd milwrol, a sut mae'n gatalydd ar gyfer arddangosion, caffaeliadau neu ymgysylltu â'r cyhoedd o’r newydd. Bydd yn dangos nad yw cyflwyno Rhyfel y Falklands/Malvinas yn rhywbeth sefydlog, ond ei fod yn esblygu'n barhaus, yn ddeinamig ac yn heriol.

Bywgraffiad
Mae Dr Peter Johnston yn hanesydd milwrol ac yn weithiwr amgueddfa proffesiynol. Ar hyn o bryd mae'n Bennaeth Casgliadau ac Ymchwil yn Amgueddfa'r Awyrlu Brenhinol. Astudiodd ei raddau Israddedig a Meistr ym Mhrifysgol Durham a chwblhaodd ei PhD ym Mhrifysgol Caint, gan ganolbwyntio ar recriwtio, diwylliant a phrofiad o wrthdaro yn Lluoedd Arfog Prydain wrth ryfela yn y Falklands. Mae Dr Johnston wedi gweithredu fel arbenigwr ac academydd cysylltiedig ar deithiau maes y gad o Fflandrys i'r Falklands, yn ogystal ag ymddangos ar draws sianeli cyfryngol.

Trefn y Digwyddiad & recordio
Bydd  y digwyddiad yn cael ei gynnal ar-lein fel gweminar Zoom a byddwn yn recordio’r gweminar er mwyn ei gyhoeddi ar ôl y digwyddiad.

Cyfieithu ar y pryd
Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â mlang-events@caerdydd.ac.uk erbyn dydd Mercher 9 Mawrth i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd. Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.

Cofrestru
Pan fyddwch yn clicio ar y botwm ‘cofrestru' ar ochr chwith y dudalen hon, cewch eich tywys i dudalen gofrestru ar gyfer y gynhadledd rithwir ryngwladol ar 6-8 Ebrill, (Ail)feddwl y Falklands: Visions and Versions in Archentian and British Cultures'. Byddwch felly yn derbyn y manylion llawn y gynhadledd fodd bynnag, gallwch ymuno ar gyfer y sgwrs hon un unig ar ddydd Iau 7 Ebrill. Nid oes unrhyw rwymedigaeth i fynychu'r gynhadledd lawn os nad ydych yn dymuno. Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru yw 14:00 (BST) ddydd Mawrth 5 Ebrill 2022.

Hysbysiad Diogelu Data
Pan fyddwch yn cofrestru, cedwir eich data yn unol â’n Hysbysiad Diogelu Data. Byddwn yn prosesu’r data personol a ddarparwyd gennych yn unol â rheoliadau diogelu data.

Rhannwch y digwyddiad hwn