Ewch i’r prif gynnwys

Agor adeilad Abacws Prifysgol Caerdydd gyda'r Athro Hannah Fry yn sôn am Data Difyr

Dydd Mercher, 27 Ebrill 2022
Calendar 18:00-19:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Prof Hannah Fry

Mae Abacws yn dod â'r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg a'r Ysgol Mathemateg ynghyd i greu un cyfleuster o'r radd flaenaf. Yn Abacws, mae gwaith yn cael ei wneud mewn ffordd newydd sy’n canolbwyntio ar gydweithio a rhannu gweledigaeth, ond mae hunaniaethau unigol y ddwy Ysgol wedi’u cadw. Mae’r adeilad chwe llawr hwn wedi'i ddylunio mewn cydweithrediad â myfyrwyr a staff academaidd i greu mannau gwaith rhyngddisgyblaethol, hyblyg a chreadigol, gan gynnwys mannau addysgu arloesol.

Ymunwch â ni mewn digwyddiad i ddathlu agor yr adeilad arbennig hwn.

Amserlen y Digwyddiad

17.55 – Ymunwch â ni ar-lein

18:00 – Darlith ‘Data Difyr’ gan yr Athro Hannah Fry

18:45 – Cwestiynau*

19:00 – Diwedd y digwyddiad

*Wrth gofrestru, cewch eich gwahodd i gyflwyno cwestiynau yn Gymraeg neu Saesneg ymlaen llaw. Gan y bydd amser yn brin, nodwch efallai na fydd yr Athro Fry yn gallu ateb pob cwestiwn.

Mae Hannah Fry wedi treulio'r degawd diwethaf yn gweithio gyda data ac yn chwilio am batrymau mathemategol mewn ymddygiad dynol. Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae wedi dod ar draws rhai straeon anhygoel – ymhlith y rhifau – sy'n mynd at wraidd pwy ydym fel pobl.

Yn rhan o’i darlith optimistaidd, bydd Hannah Fry yn rhannu rhai straeon rhyfeddol am bethau arloesol iawn sy’n digwydd ym maes gwyddor data – straeon arbennig a braf sy’n dangos yr hyn y gallwn ei gyflawni pan fyddwn yn edrych yn ôl arnom ni ein hunain drwy lygaid data. Bydd yn dangos i chi sut y gall edrych yn fathemategol ar ystyr bod yn ddynol lywio ein cymdeithas, o ddêtio a chael gofal iechyd i ddal llofruddion cyfresol a phopeth arall.

Wrth gofrestru, nodwch y bydd eich data’n cael ei gadw’n unol â’n Hysbysiad Diogelu Data, sydd ar gael yma.

Fformat y digwyddiad ar gyfer ffrydio ar-lein

Bydd y digwyddiad yn cael ei ddarlledu ar-lein ar wefan y Brifysgol. Ni fydd yn cael ei recordio, nac ar gael i'w wylio ar-lein ar ôl i'r digwyddiad gael ei gynnal.

Cwestiynau i  Hannah Fry

Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn Saesneg. Wrth gofrestru, mae croeso i chi gyflwyno cwestiynau yn Gymraeg neu yn Saesneg ymlaen llaw i’w gofyn yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â cu-events@caerdydd.ac.uk erbyn dydd Gwener 22 Ebrill 2022.

Cofrestru

Ymddiheurwn nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg. Yn anffodus, nid yw hynny’n bosibl ar y platfform rydym yn ei ddefnyddio.

Rhannwch y digwyddiad hwn