Ewch i’r prif gynnwys

The impossibility of an island: figures of community in Clément Cogitore’s Braguino

Dydd Mercher, 27 Ebrill 2022
Calendar 16:00-17:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Transnational Cultural & Visual Studies research theme stock image

Gweminar gyda'r siaradwr gwadd, Dr Greg Kerr (Prifysgol Glasgow), fydd yn cael ei gynnal gan thema ymchwil Astudiaethau Diwylliannol a Gweledol Trawswladol yr Ysgol Ieithoedd Modern.

Crynodeb
Mae rhaglen ddogfen 2017 Clément Cogitore, Braguino, yn canolbwyntio ar anheddiad bach iawn ym mhellter eithafol y taiga yn Rwsia, sy'n gartref i gymuned sy'n cynnwys un teulu estynedig. Mae trigolion yr anheddiad, sy’n byw yn ôl gwerthoedd hunanddibyniaeth a pharch at natur, yn cynnal cydbwysedd ecolegol sensitif ag adnoddau'r goedwig gyfagos, er bod y cydbwysedd hwn yn cael ei bygwth gan botswyr ymosodol, yr argyfwng yn yr hinsawdd ac anghydfod tiriogaethol chwerw. Mae'r papur hwn yn trin a thrafod y ffigurau gwahanol yn y gymuned a bortreadir yn y ffilm, gan ddadlau bod Cogitore yn datblygu moeseg ddogfennol a barddonol nodedig, lle y bydd motiffau absenoldeb a lleihad mewn rheolaeth awdurdodol yn ganolog.

Nodyn bywgraffyddol
Darlithydd Ffrangeg yw Greg Kerr ym Mhrifysgol Glasgow. Ei brif arbenigedd ymchwil yw astudiaethau ar farddoniaeth Ffrangeg modern, gyda’r pwyslais ar ddadleoli, alltudiaeth ac iwtopia. Cyhoeddwyd ei lyfr Exile, Non-Belonging and Statelessness in Grangaud, Jabès, Lubin and Luca: No man’s languagegan Wasg UCL yn 2021 (Mynediad Agored). Ar y cyd â Dr Véronique Montément o Brifysgol Lorraine, cyd-olygoddgasgliad arbennig yn Modern Languages Open’Between borders: French-language poetry and the poetics of statelessness’ (2019). Ef hefyd yw awdur Dream Cities: Utopia and Prose by Poets in Nineteenth-century France (Legenda, 2013). Mae'n aelod o fyrddau golygyddol y cylchgronau Forum for Modern Language Studies a’r Irish Journal of French Studies.

Trefn y Digwyddiad & recordio
Bydd  y digwyddiad yn cael ei gynnal ar-lein fel gweminar Zoom ac ni fydd yn cael ei gofnodi.

Cyfieithu ar y pryd
Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â mlang-events@caerdydd.ac.uk erbyn dydd Mercher 9 Mawrth i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd. Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.

Cofrestru
Mae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg.  Yn anffodus nid yw'r platfform yr ydym yn ei ddefnyddio'n cynnig y gwasanaeth hwn.

Hysbysiad Diogelu Data
Pan fyddwch yn cofrestru, cedwir eich data yn unol â’n Hysbysiad Diogelu Data. Byddwn yn prosesu’r data personol a ddarparwyd gennych yn unol â rheoliadau diogelu data.

Rhannwch y digwyddiad hwn