Ewch i’r prif gynnwys

Ysgol Busnes Caerdydd Seswn Hysbysu dros Frecwast – Sbardun i Dwf Busnes: Sut Rydym yn Cefnogi #BBaCH

Dydd Mawrth, 5 Ebrill 2022
Calendar 08:30-09:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Growth of graphic trees

Wrth inni barhau i ddod allan o’r pandemig, beth yw eich cynlluniau busnes chi ar gyfer 2022 a thu hwnt? Ydych chi’n chwilio am ffyrdd newydd i oroesi neu tyfu?

Ymunwch â ni ar Ddydd Mawrth Ebrill 5ed 8.30am-9.30am i glywed gan arweinwyr busnes yng Nghymru i ddeall sut y gall gweithio gyda’r Brifysgol helpu eich cynlluniau ar gyfer tyfu eich busnes.

Rydym yn falch iawn o gael cwmni panel o BEDWAR arweinydd busnes BBaCH fel siaradwyr gwadd i drafod eu storiiau ar sut y gwnaeth cydweithio gyda’r Ysgol Busnes a’r Brifysgol galluogi i’r hyn oedd i’w weld yn amhosib, ddigwydd. Mae chwistrellu syniadau newydd, trwy dynnu ar wybodaeth arbenigol dros ystod o feysydd busnes wedi helpu i siapio’r cwmnïau hyn i’r hyn yr ydyn nhw heddiw.

Mae Ysgol Busnes Caerdydd yn falch iawn o’r Achrediad Siarter Busnesau Bach – mae’r cytundeb hyn yn cydnabod y rôl y mae Ysgolion Busnes, a’u Prifysgolion cysylltiedig, yn chwarae wrth gefnogi busnesau bach, entrepreneuriaid, busnesau newydd a menter myfyrwyr. Fel un o ddwy Ysgol Busnes achrededig yng Nghymru, rydym wedi ymrwymo i chwarae rhan allweddol wrth gefnogi busnesau bach i adeiladu ffyniant yng Nghymru wedi’r pandemig.

Ni fu erioed amser gwell i roi hwb sylweddol i’ch busnes, p’un a ydych yn fusnes newydd neu yn hytrach yn gwmni sefydledig. Wrth inni barhau i ddod allan o’r pandemig, mae arweinwyr busnes yn sylweddoli bod hwn yn amser delfrydol i gydweithio, ac i ail-ystyried strategaeth busnes a chyfleoedd i dyfu busnes. Dewch i glywed yr hyn y gallwn gynnig i chi.

Siaradwyr Gwadd

Yn amodol ar unrhyw newidiadau i lefelau cyfyngiadau, rydym yn gyffrous i fod yn rhedeg ein Sesiwn Hysbysu dros Frecwast hybrid cyntaf. Pan fyddwch yn cofrestru eich lle bydd gennych yr opsiwn i ddewis ymuno â ni naill ai'n bersonol (yn yr Ystafell Addysg Weithredol, Ysgol Busnes) neu ar-lein trwy Zoom.

Os hoffech chi ymuno â'n Cymuned Addysg Weithredol a derbyn gwahoddiadau ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol, Sesiynau dros Frecwast, gwybodaeth am gyrsiau, a'n cylchlythyrau misol, dilynwch y ddolen yma (rydyn ni'n hoffi dilyn y rheolau GDPR).

Rhannwch y digwyddiad hwn


Digwyddiadau yn y gyfres hon

Executive Education