Ewch i’r prif gynnwys

Breninesau Môr-ladron a Bodau Hybrid Cyrff Gwrthryfela yn Ymgyrchu dros Gyfiawnder Atgenhedlu Chile ac Iwerddon

Dydd Mercher, 23 Mawrth 2022
Calendar 16:00-17:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Girl with smart phone in her hand, walking down the street

Mae thema ymchwil Astudiaethau Ardal Byd-eang Seiliedig ar Iaith yn falch o gael cynnal y gweminar hwn gyda'r siaradwr gwadd, Dr Céire Broderick (Coleg Prifysgol Cork).

Crynodeb
Unodd undod trawswladol a beirniadaethau cynhwysfawr o systemau trefedigaethol, patriarchaidd yr ymatebion diwylliannol a grëwyd yn ystod yr ymgyrchoedd dros gyfiawnder atgenhedlu yn Iwerddon a Chile yn 2018. Yn y sgwrs hon, ystyrir enghraifft o bob cyd-destun, sef y darn perfformio, 'Abortistas' gan yr Yeguada Latinoamericana yn Chile a'r gerdd 'Granuaile' gan Róisín Kelly yn Iwerddon. Gan ddefnyddio ymagwedd ffeministaidd dadrefedigaethol, bydd y ffurfiau ar gelfyddyd a thiriogaethau geo-wleidyddol wahanol yn cael eu harchwilio, gan ganolbwyntio ar eu gwaith adeiladu disgyrsiol o gyrff gwrthryfelgar i feirniadu profiadau bywyd menywod a phobl feichiog o dan y cyfreithiau atgenhedlu cyfyngol yn y ddwy wlad.  

Bywgraffiad
Mae Céire Broderick yn ddarlithydd mewn Astudiaethau America Ladin yng Ngholeg Prifysgol Cork. Mae ei monograff diweddar, Colonial Legacies and Contemporary Identities in Chile: Revisiting Catalina de los Ríos y Lisperguer (2021), yn archwilio pryderon traddodiadol a chyfoes ynghylch rhywedd ac ethnigrwydd yn Chile trwy ddadansoddiad testunol o nofelau hanesyddol yn portreadu Catalina de los Ríos y Lisperguer, ffigwr o'r ail ganrif ar bymtheg. Mae ei gwaith presennol yn cymryd ymagwedd gymharol tuag at yr ymatebion creadigol yn yr ymgyrchoedd dros gyfiawnder atgenhedlu yn yr Ariannin, Chile ac Iwerddon yn 2018. Mae'n rhyngddisgyblaethol ei natur ac yn tynnu sylw at y groesffordd rhwng gweithredu celf a materion cymdeithasol sy'n wynebu'r gwledydd dan sylw. Drwy'r prosiect hwn, mae hi’n cyfuno damcaniaethau a gynhyrchir yn y Gogledd a'r De Byd-eang, yn enwedig ffeministiaeth dadrefedigaethol, i ymchwilio i sut mae ymarferwyr diwylliannol yn cyfrannu at y brwydrau yn erbyn heriau cymdeithasol-hanesyddol a geowleidyddol.

Trefn y Digwyddiad & recordio
Bydd  y digwyddiad yn cael ei gynnal ar-lein fel gweminar Zoom a byddwn yn recordio’r gweminar er mwyn ei gyhoeddi ar ôl y digwyddiad.

Cyfieithu ar y pryd
Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â mlang-events@caerdydd.ac.uk erbyn dydd Mercher 9 Mawrth i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd. Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.

Cofrestru
Mae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg. Yn anffodus nid yw'r platfform yr ydym yn ei ddefnyddio'n cynnig y gwasanaeth hwn.

Hysbysiad Diogelu Data
Pan fyddwch yn cofrestru, cedwir eich data yn unol â’n Hysbysiad Diogelu Data. Byddwn yn prosesu’r data personol a ddarparwyd gennych yn unol â rheoliadau diogelu data.

Rhannwch y digwyddiad hwn