Ewch i’r prif gynnwys

Ho-Ren-So: Cyfathrebu drwy negeseuon gwib symudol yn y gweithle yn Siapan mewn menter gymdeithasol

Dydd Mercher, 2 Mawrth 2022
Calendar 10:00-11:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Image of Professor Hiromasa Tanaka

Dyma’r digwyddiad nesaf yng Nghyfres Darlithoedd Caerdydd-Siapan, y tro hwn gyda'r Athro Hiromasa Tanaka (Prifysgol Meisei). Noddir y digwyddiad hwn gan Rwydwaith Sakura’r Japan Foundation.

Crynodeb
Mae'r ap LINE bellach yn un o’r apiau negeseuon gwib mwyaf poblogaidd yn Siapan ar gyfer ffonau symudol. Erbyn 2021, roedd ap Line wedi cael ei osod mewn 96.5% o'r holl ffonau clyfar yn Siapan. Mae'r ddarlith hon yn amlinellu'r patrymau a'r strategaethau rhyngweithio a ddefnyddir yn aml mewn sgyrsiau busnes ar-lein yn Siapanaeg ac a gofnodwyd wrth i bobl ddefnyddio Line. Mae'r data'n dangos, yn y lle cyntaf, bod defnyddio aisatsu (cyfarchion) yn cyfrannu at ddatblygu ysbryd o berthynas yn y tîm. Yn ail, cyflwynir data sy'n cynnwys patrymau Ho-Ren-So yn ogystal â sylwadau cadarnhaol megis "ryokai desu". Bydd y drafodaeth wedyn yn ymdrin â chyfraniad pob siaradwr at y ffordd y bydd yr aelodau yn creu mapiau arbennig a chronolegol ar y cyd drwy ddefnyddio Ho-Ren-So. Mae Ho-Ren-So, sy'n golygu 'adrodd, cysylltu ac ymgynghori', yn pwysleisio llif parhaus o wybodaeth gan gynnwys y rheolwyr a chydweithwyr. Credir bod Ho-Ren-So yn sicrhau y gall gweithwyr gymryd y camau gorau i sicrhau rheolaeth ansawdd lwyr mewn safleoedd cynhyrchu. Mae'r ddarlith yn dadlau y gallai Ho-Ren-So fod yn dempled ar gyfer cyfathrebu ym myd busnesau yn ogystal ag aisatsu.

Nodyn bywgraffyddol
Athro yn Ysgol y Dyniaethau, Prifysgol Meisei, Siapan yw Hiromasa Tanaka, Ed. D. Mae'n dysgu cyrsiau methodoleg ymchwil ar gyfer myfyrwyr graddedig yn ogystal â chyrsiau sy'n seiliedig ar brosiectau ar gyfer myfyrwyr israddedig. Ac yntau’n ymgynghorydd, mae Hiromasa wedi cymryd rhan mewn nifer o gynlluniau i ddatblygu systemau adnoddau dynol ar gyfer corfforaethau busnes.

Trefn y Digwyddiad & recordio
Bydd  y digwyddiad yn cael ei gynnal ar-lein fel gweminar Zoom a byddwn yn recordio’r gweminar er mwyn ei gyhoeddi ar ôl y digwyddiad.

Cyfieithu ar y pryd
Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â mlang-events@caerdydd.ac.uk erbyn dydd Mercher 16 Chwefror i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd. Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.

Cofrestru
Mae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg. Yn anffodus nid yw'r platfform yr ydym yn ei ddefnyddio'n cynnig y gwasanaeth hwn.

Hysbysiad Diogelu Data
Pan fyddwch yn cofrestru, cedwir eich data yn unol â’n Hysbysiad Diogelu Data. Byddwn yn prosesu’r data personol a ddarparwyd gennych yn unol â rheoliadau diogelu data.

Rhannwch y digwyddiad hwn