Ewch i’r prif gynnwys

Ysgol Busnes Caerdydd - Seswn Hysbysu dros Frecwast: Torri drwy Argyfwng y Gadwyn Gyflenwi - Arloesedd Digidol

Dydd Mawrth, 1 Mawrth 2022
Calendar 08:30-09:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

online Breakfast Briefing session

Torri drwy Argyfwng y Gadwyn Gyflenwi - Arloesedd Digidol

Mae’n siŵr eich bod i gyd wedi profi cynnyrch coll yn yr archfarchnadoedd, McDonalds yn rhedeg allan o ysgytlaeth, ac oedi hir ar gyfer eich cypyrddau cegin newydd. Mae cadwyni cyflenwi yn ein gadael ni lawr mewn byd sy’n cynyddol gyfnewidiol, ac sy’n llawn ansicrwydd ac aflonyddwch. Mae arloesi drwy dechnolegau digidol diwydiannol, megis blockchain a deallusrwydd artiffisial o fewn yr amgylchiadau hyn yn cynnig ffyniant byd-eang a lleol. Ymunwch â ni yn ein Sesiwn dros Frecwast nesaf i glywed mwy.

Ry’n ni gyd wedi gweld yr effeithiau ar gadwyni gyflenwi gyda’r rhwystr diweddar yng Nghamlas Suez, y rhyfeloedd masnach rhwng yr UD a Tsieina, Brexit, trychinebau naturiol a phandemig Covid-19. Mae’r ansicrwydd hynny yn amlygu llawer o wendidau cudd yn y gadwyn gyflenwi. Un o’r gwendidau mawr yn y newid parhaus hwn yw’r orddibyniaeth ar gyflenwyr sengl ar gyfer cynhyrchion a gwasanaethau hanfodol. Mae newidiadau fel hyn yn gyrru cadwyni cyflenwi byd-eang i rwydweithiau mwy lleol a rhanbarthol, sy’n cael eu dylanwadu gan bolisïau fel Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yng Nghymru. Fel canlyniad, mae angen i sefydliadau’r sector cyhoeddus a’r sector preifat adeiladu sylfaen cyflenwyr amrywiol, lleol, i fod yn fwy gwydn ac ymatebol i’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.

Ond mae ymgysylltu â nifer fawr o gyflenwyr yn enwedig busnesau bach a chanolig, yn creu heriau mawr, oherwydd sut ydych chi’n gwybod pwy y gallwch ymddiried ynddynt, a sut ydych chi’n cydbwyso’r cymhlethdod cysylltiedig? Yn y sesiwn hon, byddwn yn arddangos sut y gellir defnyddio deallusrwydd artiffisial a blockchain i ddatblygu llwyfan effeithiol i ddarganfod cyflenwyr lleol. Bydd hwn yn galluogi sefydliadau i arbed ar yr amser, cost a’r risg o ymgysylltu gyda chyflenwyr lleol, wrth ddiogelu gwybodaeth fasnachol sensitif ac eiddo deallusol. Ymunwch â ni i ddysgu popeth amdano.

Os hoffech chi ymuno â'n Cymuned Addysg Weithredol a derbyn gwahoddiadau ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol, Sesiynau dros Frecwast, gwybodaeth am gyrsiau, a'n cylchlythyrau misol, dilynwch y ddolen yma (rydyn ni'n hoffi dilyn y rheolau GDPR).

Rhannwch y digwyddiad hwn


Digwyddiadau yn y gyfres hon

Executive Education