Ewch i’r prif gynnwys

Gwleidyddiaeth aflonyddgar Brexit: cymunedau gwledig, dibyniaeth ac ymfudo Sarah Neal (Prifysgol Sheffield)

Dydd Mercher, 9 Chwefror 2022
Calendar 13:00-14:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

 'Ni fydd milfeddygon ar gael' (Rose, sefydliad cymunedol gwledig, yr Alban).  

Mae’r cyflwyniad hwn yn seiliedig ar gyfres o gyfweliadau ansoddol gyda sefydliadau gwledig ac ymfudo i astudio effeithiau cymdeithasol Brexit ar gymunedau gwledig yng Nghymru, Lloegr a’r Alban (Neal et al 2021). Mae'r astudiaeth gychwynnol hon yn cael ei datblygu ar hyn o bryd yn rhan o gais ymchwil ail gam i Ymddiriedolaeth Leverhulme.

Bydd y cyflwyniad yn canolbwyntio ar y ffaith bod ymfudwyr yn dechrau symud i gefn gwlad gan mai tan yn ddiweddar, roedd y ffenomen hon yn digwydd mewn trefi yn bennaf.  Mae’n astudio sut mae hyn yn siglo ein delweddau o gefn gwlad ac yn ymwneud â daearyddiaeth wleidyddol Brexit. Bydd Sarah yn astudio pa mor ansefydlog yw’r mathau helaeth o berthynas rhwng cefn gwlad a’r ymfudwr, ac roedd hyn wedi dod i'r amlwg dro ar ôl tro yn ystod y cyfweliadau.

Er bod Rose yn poeni na fydd ‘milfeddygon’ yn bodoli ar ôl Brexit a bod hyn yn cyd-fynd â’r pryderon ehangach sy’n cael eu mynegi am economïau gwledig hynod bwysig, mae’n bosibl deall y drafodaeth ar fod yn ddibynnol mewn ffordd ehangach, sef ei bod yn rhywbeth sy’n gymdeithasol yn ogystal ag yn economaidd, gan fod y penderfyniadau y bydd ymfudwyr i gefn gwlad (a’r cyfyngiadau arnyn nhw) yn eu gwneud yn torri ar draws y gallu i fyw yng nghefn gwlad ac yn ei ail-lunio. 

Rhannwch y digwyddiad hwn