Ewch i’r prif gynnwys

LABORDY CELF: Celf Ymwrthedd Gwrthficrobaidd

Calendar Dydd Sadwrn 19 Chwefror 2022, 11:00-Dydd Mawrth 22 Chwefror 2022, 17:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

ART LAB

Profiad ART LAB
19 – 22 Chwefror 2022
11.00-17.00
Canolfan Gelfyddydau Chapter, Caerdydd

Ydych chi'n hoffi gwyddoniaeth? Ydych chi'n frwd am bodlediadau? Oes gennych chi ddiddordeb mewn gwybod sut y gall y ddau gydweithio? Fel rhan o Ŵyl Wyddoniaeth Caerdydd 2022, mae tîm y Biowyddorau ym Mhrifysgol Caerdydd, mewn partneriaeth â Chaerdydd Creadigol, yn cynnal profiad digwyddiad celf-wyddonol am ddim yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter sy'n cynnwys:

*    Arddangosfa gelf ar thema Ymwrthedd Gwrthficrobaidd (AMR) a fydd yn arddangos gweithiau celf wedi'u comisiynu, a gwaith celf wedi’i ddethol o gystadleuaeth celf gyhoeddus (11:00-17:00, 19-22 Chwefror 2022, nid oes angen cadw lle) Ewch i'r ystafell 'First Space' yn Chapter i ryfeddu at gerfluniau sebon eiddil (Heloise Godfrey-Talbot), celf stryd drawiadol (Drew Copus), printiau risograff bywiog (Charlotte Hepburn), paentio olew swrrealaidd (Jill Powell) a mwy! Mae gan bob gwaith celf ei stori ei hun i'w hadrodd am AMR. 

*    Dangosiad o'r ffilm ddogfen 'RESISTANCE' – i’w ddilyn gan drafodaeth banel gyda gwyddonwyr lle gall y gynulleidfa ofyn cwestiynau (14.00-16.00  20 Chwefror 2022, manylion cadw lle ar gael YMA
Bydd is-deitlau Saesneg yn cael eu cynnwys ar y ffilm a bydd Cyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain yn bresennol ar gyfer trafodaeth y panel.
Cysylltwch â creativecardiff@caerdydd.ac.uk i roi gwybod inni am ffyrdd eraill o hwyluso hygyrchedd i chi.

Ymwrthedd gwrthficrobaidd (AMR) yw pan nad yw microorganebau fel bacteria, ffyngau a feirysau bellach yn ymateb i feddyginiaethau o'r enw gwrthficrobau a ddefnyddir i drin heintiau. Mae AMR yn gwneud heintiau'n anoddach eu hatal a'u trin, gan arwain at gostau meddygol uwch, salwch difrifol a nifer cynyddol o farwolaethau bob blwyddyn. Yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd, AMR yw un o'r 10 bygythiad iechyd mwyaf sy'n wynebu dynoliaeth. 

I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad ac am AMR, ewch i: https://cardiff-artlab.com/

Dilynwch LABORDY CELF ar facebook, twitter ac instagram i gael y wybodaeth ddiweddaraf am #cardiffartlab2022

First space
Canolfan Gelfyddydau Chapter
Heol y Farchnad
Caerdydd
CF5 1QE

Rhannwch y digwyddiad hwn