Ewch i’r prif gynnwys

Anatomeg Gornest yn Lloegr yr Oes Jacobeaidd: Diwylliannau Anrhydedd, Trais Boneddigion a’r Gyfraith

Dydd Mercher, 16 Chwefror 2022
Calendar 19:00-20:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Anatomy of a Duel in Jacobean England: Honour Cultures, Gentry Violence and the Law

Cynhelir y ddarlith nesaf yn ein cyfres Archwilio'r Gorffennol ddydd Mercher 16 Chwefror 2022. Bydd y ddarlith yn rhad ac am ddim. Cofrestrwch i gadw lle, a byddwn ni’n anfon dolen Zoom ychydig ddyddiau cyn y ddarlith.
Ar gyfer cyflwyniad mis Chwefror, rydym yn edrych ymlaen at groesawu Dr Lloyd Bowen (Prifysgol Caerdydd), i siarad ar y thema: 'Anatomeg Gornest yn Lloegr yr Oes Jacobeaidd: Diwylliannau Anrhydedd, Trais Boneddigion a’r Gyfraith’:
Mae'r cyflwyniad hwn yn canolbwyntio ar y gornest sydd wedi'i dogfennu orau yn Lloegr yn y cyfnod modern cynnar. Roedd hon yn frwydr a gynhaliwyd yn Highgate ar 21 Ebrill 1610 rhwng dau ŵr bonheddig, un o Sir Gaer ac un o Sir y Fflint. Roedd y canlyniadau’n cynnwys chwilio am droseddwr, achos llys am lofruddiaeth, cyhuddiadau o rigio rheithgor, a phardwn brenhinol dadleuol. Mae archif gyfreithiol unigryw yn ein galluogi nid yn unig i ail-greu'r ornest hon mewn manylder digynsail, ond hefyd i ddilyn ei tharddiad a'i chanlyniadau. Mae’r papur yn ystyried yr hyn y gall y microhanes hon ei ddweud wrthym am drais elitaidd, diwylliannau anrhydedd bonheddig a gweithrediad y gyfraith yn Lloegr Shakespeare, ac mae’n dadlau nad oedd boneddigion Lloegr efallai mor ‘sifil’ a ‘heddychlon’ ag y mae llawer o sylwebwyr wedi dadlau.

Rhannwch y digwyddiad hwn


Digwyddiadau yn y gyfres hon

Exploring the Past lecture series