Chwythbrennau Symffonig Prifysgol Caerdydd
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr

Ymunwch â Chwythbrennau Symffonig Prifysgol Caerdydd yn eu cyngerdd tymor y Pasg sy’n adlewyrchu traddodiad llenyddol storiol mewn cyfansoddiadau gan gyfansoddwyr Cymreig a Seisnig. Ar ôl clywed gwaith poblogaidd Guy Woolfenden Illyrian Dance, sy’n gyfres seiliedig ar gynnyrch y cyfansoddwr ar gyfer y Royal Shakespeare Company, bydd perfformiad o A Star Danced gan Nicola Renshaw, darn sy’n cyfleu asbri rhamantus y ddrama Much Ado About Nothing. Mae Legends of the Bear gan Gareth Wood yn ein atgoffa o chwedl Brenin Arthur ac mae’n bleser mawr cael cyflwyno perfformiad cyntaf o waith newydd sy’n cyfleu hanes Blodeuwedd o’r Mabinogion gan fyfyriwr PhD yn yr Ysgol, Lucy McPhee.
Music Building
31 Heol Corbett
Cathays
Caerdydd
CF10 3EB